Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Artistiaid gwestai | Newyddion

Daw Sinfonia Cymru â Sean Shibe a Phremiere Byd i Gynulleidfaoedd yng Nghymru y mis Chwefror hwn.

Datganiad i’r Wasg: 14.02.24
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 14 Chwefror 2024

Mae Sinfonia Cymru – sydd ag enw da am fod ymhlith y cerddorfeydd mwyaf cyffrous sydd ar gael – yn ymhyfrydu mewn cael eu galw’n anghyffredin. Maen nhw’n gadael cynulleidfaoedd yn “syfrdan”, “wedi’u hysbrydoli” ac “yn llawn egni” wrth i’w cerddorion ifanc berfformio cyfuniad o gerddoriaeth a seiniau clasurol a chyfoes – a hynny heb yr un arweinydd o’u blaenau!

Y mis Chwefror hwn, bydd 15 o gerddorion Sinfonia Cymru yn cydweithredu gyda Sean Shibe – y chwaraewr arobryn ar y gitâr drydan a’r gitâr acwstig – i berfformio ‘Time Machine’, a fydd yn cynnig profiad newydd ac unigryw i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Gyda chyfuniad o gerddoriaeth amrywiol, ynghyd â cherddoriaeth o ffilmiau megis The Truman Show a There Will be Blood, bydd y perfformiad hwn yn archwilio seiniau unigryw y gitâr a sut y mae’n debygol o swnio yn y dyfodol.

“Fel cerddorfa, rydyn ni bob amser yn gwthio yn erbyn y ffiniau, gan gymysgu gwahanol elfennau ac archwilio dulliau newydd o gynnig profiadau cerddorol cyffrous ac unigryw ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae Sean Shibe yn gerddor anhygoel, ac mae’r cyfuniad o’i sgiliau anhygoel e ar y gitâr, doniau ein cerddorion gwych ni, a darnau o ffilm, yn golygu bod rhywbeth gwrioneddol arbennig a chofiadwy ar ei ffordd at ein cynulleidfaoedd y mis Chwefror hwn.” – Caroline Tress, Prif Weithredwr Sinfonia Cymru.

Mae Sean Shibe – a gafodd ei eni a’i fagu yn yr Alban – yn adnabyddus fel gitarydd sydd ymhith y mwyaf dynamig ac ysgogol yn y byd. Yn un o gyn-Artistiaid Cenhedlaeth Newydd y BBC, mae e wedi ennill nifer o wobrau uchel eu proffil, yn cynnwys Gwobr Leonard Bernstein yn 2022 a Gwobr Borletti-Buitoni yn 2012. Ac yntau wedi perfformio mewn lleoliadau o Lundain i Frankfurt, mae Sean yn edrych ymlaen yn fawr at ei daith yng Nghymru:

“Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn i gael ymuno â’r gerddorfa Gymreig wych hon, a theithio ein cerddoriaeth i gymunedau yng Nghymru y mis Chwefror hwn. Mae Time Machine yn gyfuniad diddorol o ddarnau sy’n rhychwantu’r gorffennol a’r dyfodol – a phob darn yn gyforiog o egni, optimistiaeth a hud a lledrith. Gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hysbrydoli gan bŵer y gitâr a’r modd y mae’n parhau i esblygu dros amser.”

Ar gyfer y daith hon, mae Sean wedi dewis rhaglen sy’n cynnwys cerddoriaeth o waith cyfansoddwyr sy’n byw ac yn gweithio yn y DU a’r Unol Daleithiau – o Jonny Greenwood, aelod o Radiohead, i Julia Wolfe a Pamela Z o Efrog Newydd, o Laura Snowden i Judd Greenstein, ac unawd agos-atoch i’r gitâr gan Waley-Cohen a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghymru!

Ac os nad yw hyn yn ddigon i ryfeddu cynulleidfaoedd yng Nghymru, bydd y cyngherddau yma hefyd yn cynnwys Premiere Byd concerto newydd i’r gitâr o waith David John Roche, y cyfansoddwr o Gymru, a gyd-gomisiynwyd gyda’r Britten Sinfonia. Ac yntau’n adnabyddus fel un o’r cyfansoddwyr ifanc mwyaf egnïol, penderfynol a llwyddiannus yng Nghymru heddiw, mae gwaith Dave yn cynnwys perfformiadau a chomisiynau’n amrywio o Gerddorfa Philharmonig Tokyo i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Fel un sy’n ddilynwr brwd i Sean Shibe a Sinfonia Cymru, mae e wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o’r prosiect hwn:

“Mae Sean Shibe yn newid y ffordd ry’n ni’n ymgysylltu â’r gitâr drydan. Mae hwn, yn sicr, yn goncerto ar gyfer Sean – gwaith hwyliog, cyffrous, dramatig, llawn riffs a mynegiant i un o’r gitarwyr trydan mwyaf eithriadol sy’n gweithio ar hyn o bryd. Mae hefyd yn wych bod y concerto hwn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghymru. Mae Sinfonia Cymru’n cynrychioli peth o’r gerddoriaeth orau i’w chreu yng Nghymru, ac yn ymgorffori rhai o agweddau mwyaf rhagorol byd cerddoriaeth yng Nghymru; rydw i’n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac ni fyddai’r concerto hwn yn digwydd heblaw amdanyn nhw a’r Britten Sinfonia.” – David John Roche.

Bydd taith y Time Machine gyda Sean Shibe yn cychwyn ar Chwefror 23ain yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, cyn teithio i’r gogledd i Neuadd Goffa Criccieth ar y 24ain a dod i ben yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ar Chwefror 25ain.

Am fanylion, ac i archebu tocynnau, ewch i www.sinfonia.cymru; i dderbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch @sinfoniacymru ar Facebook, Instagram ac X.

–DIWEDD–

Am ragor o fanylion, ac i drefnu cyfweliadau, mae croeso i chi gysylltu â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru, ar heulwen@llaiscymru.wales/ 07817 591930.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor