Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Julieth Lozano Rolong: Latin American Song

Dydd Gwener 24 Ebrill 2026 - Dydd Sadwrn 2 Mai 2026

Mae Sinfonia Cymru a’r soprano Julieth Lozano Rolong yn creu rhywbeth cwbl arbennig i deithio Cymru yn 2026, wrth i gerddoriaeth glasurol gwrdd â chalon egnïol America Ladin.

Mae Julieth ac ensemble unigryw o chwech o gerddorion Sinfonia Cymru – ffidil, trwmped, bas, clarinet, telyn, ac offerynnau taro – yn rhoi bywyd i gerddoriaeth na chaiff ei chlywed yn aml ar lwyfannau Cymru.

Gyda cherddoriaeth o’r Ariannin, Colombia, Ciwba, Mecsico, Periw a Venezuela, mae’r cyngerdd yn daith drwy America Ladin. O delynegiaeth gyfoethog María Grever i ddisgleirdeb rhythmig Esther Forero, mae pob cân y bydd Julieth yn ei pherfformio wedi’i chyfansoddi gan fenyw.

Mae Julieth – sy’n hanu o Golombia – yn estyn gwahoddiad i chi rannu yn y gerddoriaeth arbennig yma. Meddai:

“Mae hwn yn gyngerdd sy’n gobeithio atgoffa pobl bod cerddoriaeth yn fyd-eang. Rwy’n awyddus i ddod â melodïau a rhythmau o’m rhan i o’r byd i lwyfannau ym mhobman, ac atgoffa pobl eraill bod ein cerddoriaeth ni – yn enwedig gweithiau ein cyfansoddwyr benywaidd – yn hyfryd, ynllawn deilyngu cael ei pherfformio yn y ffordd orau bosib, ac o beidio â chael ei hanghofio.”

Er mwyn creu profiad cwbl unigryw ac arbennig, mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys barddoniaeth America Ladin. Ymunwch â ni ar gyfer un o’r cyngherddau mwyaf unigryw a hudolus a glywir yng Nghymru yn 2026.

Mae Julieth Lozano Rolong yn soprano arobryn o Golombia sydd wedi perfformio’n flaenorol gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Estonia ac Opera Cairo.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor