Daring to Dream: Lleswyl 2026
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026
Rydym wrth ein bodd o gael ein dewis gan Ŵyl Mentro i Freuddwydio / Daring to Dream i gymryd rhan yn eu gŵyl ddigidol 2026! Profiad Gŵyl-yn-y-Cartref yw Lleswyl, a sefydlwyd i gefnogi lles y rhai hynny na allant fynychu gigiau byw oherwydd salwch cronig, anabledd, neu unigrwydd. Y nod yw darparu profiad y gall pawb ei rannu: noson Ŵyl sy’n ddyrchafol, hwyliog a llawen, yng nghwmni teulu, ffrindiau a chymdogion! Cerddoriaeth yw’r catalydd sy’n creu’r profiad llesol hwn. Mae Lleswyl yn rhad ac am ddim i bawb.
Mae tua 1.2 miliwn o oedolion yng Nghymru – bron i hanner y boblogaeth o oedolion – yn byw gyda salwch, sy’n golygu bod bron pob teulu, stryd, gweithle a chymuned yn cael eu cyffwrdd gan salwch mewn rhyw ffordd, gan danlinellu pwysigrwydd cymorth iechyd emosiynol.
Dywedodd Barbara Chidgey, sylfaenydd Mentro i Freuddwydio: “Er mwyn byw cystal â phosib gyda salwch, mae ar bobl angen nid yn unig ofal clinigol, ond hefyd cymorth emosiynol a ‘gofodau i siarad’ am y profiad o fyw gyda salwch, y triniaethau, a’r effaith a gaiff ar fywyd bob dydd.
“Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y cyhoedd ehangach yn ein clywed ni, ac yn gwrando ar ein lleisiau wrth i ni drafod sut brofiad yw byw gyda salwch, yng nghwmni gwesteion a fydd yn ymuno â ni ar y noson – cleifion, eu teuluoedd, gofalwyr a chlinigwyr. Rydym hefyd am i bawb fwynhau cerddoriaeth lawen, bod gyda’i gilydd, a sylweddoli nad oes raid iddynt deimlo eu bod ar eu pen eu hunain gyda salwch, oherwydd maent yn rhan o’n cymuned ni.”
Bydd Lleswyl 2026, digwyddiad gŵyl cynhwysol, rhad ac am ddim, Mentro i Freuddwydio, yn ffrydio’n fyw o 7yh ddydd Gwener 20 Chwefror 2026, gyda’r cyflwynwyr Siân Lloyd, Jason Harrold a Tumi Williams. Bydd yr ŵyl ddigidol yn amlygu pum mlynedd o waith ac effaith anhygoel tîm Mentro i Freuddwydio, gan ymestyn allan i bawb na allant fynychu gigiau byw yn y dyfodol rhagweladwy.
Gallwch wylio ein perfformiadau o Isel Ddŵr/Shallow Water, a gyfansoddwyd gan Casi Wyn a’i berfformio gan Casi a Sinfonia Cymru (ffilmiwyd yn 2024) a Holding out for a Hero, a berfformiwyd gan bedwarawd llinynnol Sinfonia Cymru yn 2023 fel rhan o’r ŵyl ddigidol, yma: https://youtu.be/qledVO23GGM
Llongyfarchiadau i’r sylfaenydd, Barbara Chidgey, a thîm cyfan Mentro i Freuddwydio, ar bum mlynedd o waith anhygoel – ceir rhagor o wybodaeth am yr elusen yma: https://daringtodream.wales/what-is-lleswyl-2026/