Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Triawd Telyn, Ffliwt a Soddgrwth

Dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 - Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

Ymunwch â’r delynores frenhinol Alis Huws, Mina Middleton ar y ffliwt a Ben Tarlton ar y cello am gyngerdd hudlous awr ginio wrth inni archwilio cariad a harddwch. Cewch brofi tynerwch Salut d’amour gan Elgar, a oedd yn anrheg dyweddio i’w wraig. Cewch eich hudo gan sain myfyriol Deep Blue gan Ian Clarke, melodi hardd Nocturne gan Boulanger, a harddwch annatod The Swan gan Saint-Saëns’. Dewch i gael eich swyno a’ch ysbrydoli.

Rhaglen

  1. Ian Clarke Deep Blue
  2. Lili Boulanger Nocturne
  3. Edward Elgar Chanson de matin
  4. Edward Elgar Salut d'amore
  5. Camille Saint-Saëns The Swan
  6. Joseph Jongen Deux Pieces en Trio

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor