Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

N’famady Kouyaté with Bridget O’Donnell and Misha Mullov-Abbado

Dydd Mercher 2 Hydref 2024

Mae N’famady Kouyaté, enillydd y Gystadleuaeth Talentau Addawol
2023 yn Glastonbury, yn ganwr ac aml-offerynnwr a aned yn Guinea. Yn y cydweithrediad newydd a chyffrous hwn, mae N’famady yn ymuno â Bridget O’Donnell, y fiolinydd clasurol/ gwerin o Awstralia, Misha Mullov-Abbado,
y chwaraewr bas dwbl ac Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, a thriawd o Sinfonia Cymru.

Dewch i fwynhau trefniannau newydd o gerddoriaeth N’famady, ei lais anhygoel a’i sgiliau ar y balafon, ynghyd â cherddoriaeth werin a jazz Bridget a Misha wedi’i hysbrydoli gan natur, a ffefrynnau clasurol. Gallwch ddisgwyl cyfuniad dynamig o arddulliau a seiniau rhyngwladol – ac mae’r cyfan yn rhan o ŵyl newydd Sŵn y Ddinas, Caerdydd

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor