The Celtic Tree, gyda Casi Wyn
Mae Sinfonia Cymru’n eich gwahodd ar daith gerddorol llawn hud, o wreiddiau dwfn y diwylliant Cymraeg i ganopi Coeden Bywyd y Celtiaid, i archwilio bydoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth werin, cerddoriaeth newydd a chaneuon yn plethu i’w gilydd wrth i’r sielydd Garwyn Linnell, y fiolinydd a’r canwr David Edward (hŶdravox), a Casi Wyn, yr artist a chyn-Fardd Plant Cymru, ddod at ei gilydd i berfformio cyngerdd newydd ac unigryw, gyda cherddi Cymraeg newydd sbon gan Casi.
Mae’r cyngerdd newydd hwn, sy’n awr o hyd a heb ei berfformio erioed o’r blaen, wedi ei guradu gan Garwyn Linnell fel rhan o gyfres Curate Sinfonia Cymru, lle caiff cerddorion gymorth i archwilio a datblygu cyngherddau newydd ar themâu sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae hwn yn Berfformiad Am Ddim – Does Dim Angen Tocyn!