Tea for Two: Menuhin and Grappelli
Mae Tea for Two yn ddathliad hapus o’r hud sy’n digwydd pan fydd pedwar cerddor jazz a chlasurol yn dod at ei gilydd.
Cafodd y rhaglen hon ei ysbrydoli gan y gydweithrediad rhwng y cerddorion clasurol a jazz eiconig Yehudi Menuhin a Stéphane Grappelli, fu’n recordio cyfres o albyms yn y 1970au, i ddangos sut mae cyfuno cerddoriaeth clasurol llawn manylder, gyda rhyddid llac y byd jazz. yn creu profiad cyffrous i’r gwrandawyr.
Mae ein ffidlwr Ezo Sarici wedi trefnu amrywiaeth eang o gerddoriaeth gan Menuhin a Grappelli ar gyfer y pedwar ffidil, yn arbennig i chi ar gyfer y gyngerdd hon. Mae’n cyfuno elfennau jazz a bywiogrwydd y gypsy jazz, i greu perthynas chwareus a hwyliog rhwng yr offerynnau.
Dewch i fwynhau’r egni, naws cwtshlyd a’r cymeriad unigryw yn y cydweithrediad cyfoes a ffres hwn.