BBC Proms: Words and Music
Am y tro cyntaf erioed, byddwn yn perfformio fel rhan o’r BBC Proms! Nid yn Llundain, ond adref yng Nghymru yn y Prom cyntaf erioed i’w gynnal yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.
Sesiwn prynhawn i fwynhau cadwyn yn archwilio’r cysylltiadau a’r pwerau cyfathrebu rhwng geiriau a cherddoriaeth, wedi’u hysbrydoli gan themâu o chwedloniaeth a straeon gwerin. Ymhlith y pytiau o ryddiaith a barddoniaeth, ceir gwibdaith i chwedlau gwerin canoloesol anhygoel y Mabinogion. Cyfle braf i danio’r dychymyg, a phrofiad i’w rannu fydd yn esgyn uwchben bywyd bob-dydd.
Ar gyfer y cyngerdd hwn, bydd ein cerddorfa o 31 o gerddorion talentog dan 30 oed yn croesawu’r arweinydd Iwan Davies, Cyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth, un o brif wyliau cerdd Cymru, lle mae e’n curadu rhaglen gyffrous ac amrywiol gan artistiaid o bobrhan o’r byd.
Bydd y cyngerdd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3 a bydd ar gael trwy BBC Sounds, yn cynnwys ar alw.
Dehonglir trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Bydd y newyddion diweddaraf am y rhaglen ar gael ar bbc.co.uk/proms.