Autumn String Quartet
Gyda cherddoriaeth a ddewiswyd gan Anna Tulchinskaya, fiolinydd gyda Sinfonia Cymru, nodweddir y rhaglen hon gan dywyllwch a goleuni, cyfeillgarwch a cholled. Cysegrwyd 11eg pedwarawd Shostakovich i ffrind y cyfansoddwr a fu farw ychydig amser cyn i’r darn gael ei gyfansoddi. Does dim syndod bod y gerddoriaeth wedi’i lliwio gan deimlad trwm o wewyr meddwl, a hunan-adlewyrchiadau ar gyfeillgarwch ac unigrwydd. Darperir y goleuni gan 4edd pedwarawd Haydn, a lysenwyd yn Sunrise Quartet am ei alaw hyfryd yn rhan y ffidil, a chan Summer Moon gan Florence Price, darn a gyflwynwyd i ffrind Price, y cerddor jazz Memry Midgett. Ymunwch â ni wrth i Anna a’i chyd-gerddorion a’i ffrindiau, y cyfan dan 30 oed, berfformio’r rhaglen hyfryd hon ar gyfer pedwarawd llinynnol.
Cerddorion: Anna Tulchinskaya (ffidil), Haim Choi (ffidil), Isobel Neary-Adams (fiola), William Clark-Maxwell (sielo).
Rhaglen
- Joseph Haydn String Quartet No 4 ‘The Sunrise Quartet’ in B flat major, Opus 76
- Dmitri Shostakovich String Quartet No 11 in F minor, Opus 122
- Florence Price, arranged for string quartet by W. Newell Summer Moon