Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
News

We’ve been selected for PRSF’s New Music Biennial

Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025

Mae ein darn newydd ‘Chasing Sunglight’ wedi’i ddewis gan PRS fel rhan o’i rhaglen New Music Biennial, sy’n cydnabod y rhai sy’n gwthio’r ffiniau ym myd cerddoriaeth newydd yn y DU.

Mark David Boden sy’n Ddarlithydd yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd yw ein Cyfansoddwr, ac mae’n cael ei berfformio gan y feiolinydd gwych Fenella Humphreys â’n cerddorion llinynnau ac offerynnau tharo.

Ysbrydolwyd y darn gan daith 40,000 milltir yr aderyn ‘Artic tern’ sy’n ymfudo ac yn dilyn yr haul o un pegwn i’r llall. Mae’n berfformiad pŵerus sy’n archwilio effaith yr argyfwng hinsawdd ar adar sy’n ymfudo, â’n gobeithion am y dyfodol. Mae’n cyfuno’r sain byw a ffilm o adar yn ymfudo, wedi’i greu gan ffoaduriaid sydd a cheiswyr lloches yn Bradford a Chaerdydd.

Ry’n ni wedi gwirioni bod y darn wedi’i ddewis ymhlith  llond llaw o ddarnau yn y DU. Edrychwn ymlaen i gynrychioli Cymru wrth berfformio ‘Chasing Sunlight’ yn Bradford a Llundain yr hâf hwn ac yng Nghymru wrth gwrs. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr am y dyddiadau a’r manylion llawn.

Gyda diolch i Sefydliad PRS, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Sefydliad Hinrichsen am eu cefnogaeth i’r comisiwn hwn, ac i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am gefnogi’r daith gydweithredol gychwynnol rhwng Mark a Fenella.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor