Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Can You Sing That Tune?

Dydd Mercher 3 Mehefin 2026 - Dydd Sadwrn 6 Mehefin 2026

Mae Isobel Neary-Adams yn un o chwaraewyr ffidil Sinfonia Cymru, a bwriad Isobel trwy’r gyngerdd hon yw cael pawb i ganu – neu o leiaf i hymian y gerddoriaeth. Mae Isobel wedi curadu cyngerdd sy’n llawn melodïau ac alawon cofiadwy; rhai o bosib yn gyfarwydd, eraill yn syrpréis.  

Cynhwysir trefniant o ffefryn Cymraeg, sef yr hoff gân draddodiadol Sosban Fach. Byddwchhefyd yn clywed Adagio for Strings, darn galarus gan Samuel Barber, yn y fersiwnPedwarawd Llinynnol gwreiddiol, agos-atoch.

Canolbwynt y gyngerdd yw darn llai cyfarwydd o bosibl, Pumawd Piano Rhif gan Ernst von Dohnányi, sy’n defnyddio themâu ailadroddus ar draws y pedwar symudiad, ac sy’n dod at ei gilydd i greu diweddglo hyfryd. Meddai Isobel, “Mae’n un o’r ychydig ddarnau clasurol rwy’n gallu canu alawon ohono ar ôl gwrando arno unwaith yn unig. Gobeithio gewch chi brofiad tebyg”. 

Mae’r gyngerdd yn rhoi lle blaenllaw i bump o offerynwyr Sinfonia Cymru, pob un yn gerddor proffesiynol dan 30 oed. Mae’r gyngerdd, sy’n cynnwys ambell beth annisgwyl o fyd y ffilm a sioeau cerdd – yn gyfle i ddarganfod rhywbeth newydd, a gobeithio byddwch yn awyddus i wrando ar y gerddoriaeth dro ar ol tro.  

 

Rhaglen

  1. Traditional song Sosban Fach
  2. Barber Adagio for Strings
  3. Ernst von Dohnányi  Piano Quintet No. 1

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor