Songs for the Earth
Ymunwch â ni ar gyfer Songs for the Earth, taith drwy sain ac ysbryd yn plethu seiniau Cymreig traddodiadol, clasurol, gwerin a jazz i greu cyfuniad newydd, hudolus o gerddoriaeth. Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu ein cysylltiad dwfn â’r ddaear, dŵr, yr haul a’r lleuad, ac yn defnyddio cerddoriaeth i gysylltu â byd natur a’r awyr agored. Mae Songs for the Earth yn cyfuno ein cerddorion ni â thalentau rhyfeddol y fiolinydd glasurol a gwerin, Bridget O’Donnell, a’r chwaraewr bas jazz Misha Mullov-Abbado. Llwyddodd y darn i swyno cynulleidfaoedd yng Ngŵyl Jazz Llundain yn 2022, a chafodd ei gynnwys yn sioe Cerys Matthews ar BBC 6 Music. Y tro hwn rydym yn ei wneud yn fwy, ac yn fwy hudolus nag erioed, gydag ensemble ehangach – yn cynnwys llinynnau, telyn ac offerynnau taro – yn perfformio gyda Bridget a Misha.
Byddwch yn clywed cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan fyd natur o’r traddodiadau Celtaidd, Nordig, Gogledd a De America, Dwyrain Ewrop, a’r Dwyrain Canol. Mae rhai ohonynt yn ganeuon gwerin traddodiadol o gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ac eraill yn ganeuon diweddar gan gyfansoddwyr cyfoes. Bydd rhai’n gyfarwydd i chi, ac eraill yn eich synnu.
Dewch i deimlo ysbryd y gwynt yn Ne’ama gan Ofra Haza, a gadewch i rythmau Four Seasons of Buenos Aires gan Piazzolla eich cludo i rywle gwahanol. Mae La Mer gan Debussy yn mynd â chi at y môr, tra bod Lloer Dirion Liw’r Dydd gan Gwilym Bowen Rhys yn dwyn i gof ddarlun o leuad mwyn yn yr awyr uwchben Cymru. A chewch deimlo’r egni ysbrydol yn nhrefniant Bridget a Misha o Down to the River to Pray – efallai ei fod yn gyfarwydd i chi o’r olygfa lle mae George Clooney yn ymuno â bedydd yn O Brother, Where Art Thou?
Mae hwn yn fwy na dim ond cyngerdd; mae’n ddathliad o fywyd, byd natur, a’r cylchredau sy’n ein cysylltu ni i gyd. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â ni mewn noson fythgofiadwy o gerddoriaeth sy’n siarad â’r galon ac â’r enaid.