Songs of the Skies yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cerddoriaeth a Sgwrs ar gyfer Diwrnod Amgylchedd y Byd
I nodi Diwrnod Amgylchedd y Byd, rydyn ni’n codi i’r entrychion ar gyfer digwyddiad cyfareddol lle mae cerddoriaeth gyfoes yn cwrdd â rhyfeddodau byd natur. Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i fwynhau cyfres o berfformiadau hudolus, sgyrsiau sy’n procio’r meddwl, a gweithdai rhyngweithiol sy’n dathlu ein planed a’r creaduriaid sy’n ei galw’n gartref. Mae’r diwrnod yn cael ei ysbrydoli gan gân yr adar a theithiau anhygoel adar ymfudol. Mae’r holl berfformiadau a’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim. Dewch i dreulio’r diwrnod cyfan gyda ni, neu alw i mewn a mas – chi biau’r dewis.
1pm a 6pm – Sinfonia Cymru: perfformiad cyngerdd
Mark David Boden – Chasing Sunlight (Premiere Byd)
Claire Victoria Roberts – Trade Off (Premiere Byd)
Joy Becker a Darren Gallacher – Hope Is The Thing With Feathers
Claire Victoria Roberts – Out Of Time (mewn partneriaeth gyda Music Theatre Wales)
Fenella Humphreys – Ffidil
Creu Ffilm – Ratio Studios
Mae’r cyngerdd awr o hyd hwn yn cynnwys darn arbennig o gerddoriaeth a ddewiswyd gan y PRS Foundation ar gyfer eu New Music Biennial – digwyddiad lle rhoddir sylw i artistiaid sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth newydd yn y DU. ‘Concerto Clyweledol’ yw Chasing Sunlight gan Mark David Boden, sy’n golygu bod ein cerddorfa, a’r fiolinydd Fenella Humphreys, yn perfformio ar lwyfan o flaen tafluniadau fideo. Crëwyd y ffilmiau gan ein ffrindiau yng Nghôr Oasis One World a’r Bradford Refuge Action i adlewyrchu taith ymfudol Môr-wennol y Gogledd dros bellter o 40,000 milltir. Mae’r cyfuniad hyfryd hwn o gerddoriaeth a delweddau yn adlewyrchiad teimladwy o ddadleoli a dygnwch.
Rydyn ni hefyd yn dathlu cerddoriaeth Claire Victoria Roberts, cyfansoddwr o Gymru, gyda Premiere Byd ei darn newydd sbon Septet, yn ogystal â’i hopera seicadelig ‘celfyddyd stryd’, Out Of Time, y byddwch yn ei phrofi drwy dafluniadau fideo a chlustffonau.
Gan fynd yn ôl at ein thema adaryddol, mae Hope Is The Thing With Feathers gan Joy Becker a Darren Gallacher yn gasgliad o ddarnau a ysbrydolwyd gan gân yr adar a’r gwymp yn y nifer o adar sydd bellach i’w gweld ledled y DU. Cynhwysir cerddoriaeth gan Caroline Shaw, Meredith Monk a Pauline Oliveros.
Mae pob darn yn cyfuno cerddoriaeth a thafluniadau gweledol ar gyfer taith atgofus drwy gerddoriaeth a natur.
2:15pm a 3:30pm (45 munud) – Y Tu Ôl i’r Llenni gyda’r Casgliadau Adaryddol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae casgliadau’r amgueddfa yn cwmpasu miliynau o sbesimenau – llawer iawn mwy na’r rhai gaiff eu harddangos yn yr orielau. Ar y daith dywys hon, bydd Curadur y Fertebriaid yn cyflwyno’r casgliadau ym myd yr adar a ddelir yn yr amgueddfa, yn cynnwys llawer o rywogaethau prin, mewn perygl, a diflanedig. Cyfle euraid i chi weld y tu ôl i lenni’r Amgueddfa Genedlaethol, ac agosáu at ddodo!

4:30pm (1 awr) – Gweithdy Cyfansoddwyr
Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae darn o gerddoriaeth yn dod at ei gilydd, dyma eich cyfle i weld y broses o gyfansoddi ar waith. Mae’r cyfansoddwr Mark David Boden yn gweithio gyda myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae nifer o’i grŵp wedi cyfansoddi darnau ar gyfer y clarinet a’r corn, a recordiadau o seiniau o fyd natur. Byddwch yn eu clywed yn cael eu perfformio cyn i Mark roi adborth cadarnhaol yn y gweithdy agored prin hwn.
Côr Oasis One World – perfformiadau (amserau i’w cyhoeddi)

Mae’r Oasis One World Choir yn tynnu at ei gilydd gantorion o 25 o genhedloedd gwahanol, yn cynnwys pobl sydd wedi cael eu halltudio o’u mamwlad, a gwirfoddolwyr o gymuned Caerdydd. Mae perfformiadau’r côr yn hyrwyddo iachâd ac yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, gyda buddiannau therapiwtig i’r cantorion a’r gynulleidfa fel ei gilydd. Byddant yn perfformio caneuon llawen, yn cynnwys cân newydd sbon maen nhw wedi ei chyfansoddi gyda Joy Becker a Darren Gallacher, dau o gerddorion Sinfonia Cymru, yn arbennig ar gyfer Diwrnod Amgylchedd y Byd.
Diolch o galon i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am gynnal y digwyddiad hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar am gyllid gan Sefydliad PRS, Cronfa Dreftadaeth Gŵyl Bro Morgannwg, Tŷ Cerdd, Sefydliad Hinrichsen, a Sefydliad Vaughan Williams, sydd wedi ein galluogi ni i gomisiynu’r premierau byd y byddwn yn eu cyflwyno yn y digwyddiad hwn. Hoffem dalu diolch arbennig i’n ffrindiau yn BRAVE (drwy’r Bradford Refugee Action), Côr Oasis One World, Ratio Studios a Music Theatre Wales am eu cydweithrediad artistig ar y prosiect hwn, ac i Mark David Boden, Fenella Humphreys, Joy Becker, Darren Gallacher a Claire Victoria Roberts am eu hysbrydoliaeth a’u cerddoriaeth.
![]()