Sinfonia Cymru gyda N’famady Kouyaté
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf 2025 - Dydd Gwener 5 Medi 2025
Enillydd Cystadleuaeth Talent Newydd Glastonbury 2023, mae N’famady Kouyaté yn ganwr ac aml-offerynnwr o Guinea, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cewch brofi trefniant newydd o gerddoriaeth N’famady, ei lais anhygoel a’i sgiliau chwarae balafon ochr yn ochr â phedwarawd llinynnol ac offerynnau taro Sinfonia Cymru. Disgwyliwch gymysgedd deinamig o arddulliau rhyngwladol, rhythmau ac alawon unigryw o Orllewin Affrica ochr yn ochr a hud y clasurol a’r gwerin.