Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Sinfonia Cymru: Chamber Music Supersized

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 2026 - Dydd Llun 16 Tachwedd 2026

Wythawd, Noned, Dectet a mwydyna beth yw cerddoriaeth siambr ar raddfa fawr. Arweinydd Sinfonia Cymru, Haim Choi, syn camu i’r llifolau i gyfarwyddo rhaglengyffrous sy’n gyforiog o lawenydd, naturioldeb, ac egni trydanol. Wrth galon y cyngerdd hwn mae Octet eiconig Mendelssohn, cynnyrch cyffrous y dychymyg ifanc, wedi’i lunio a’i berfformio dan ddylanwad bywiogrwydd arferol Haim. Ochr yn ochr â’r darn yma ceir Nonet gan Louise Farrenc, cyfansoddiad cain a phwerus sydd wedi aros yn rhy hir i hawlio’r sylw. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y Dectet gan Françaix a’r Nonet gan Mustonen, arddau’n cyfuno’r modern a’r hiraethus mewn modd chwareus, fel cardiau post o oesarall. Mae gennym hefyd rywbeth newydd i’w gynnig: trefniant newydd sbon o waith Lili Boulanger – D’un matin de printemps, ar gyfer 14 o gerddorionsy’n ddathliadllachar o’r gwanwyn.

Ymunwch â ni Sinfonia Cymru, am gyngerdd llawn bywyd ac egni arbennig.

Haim Choi – Cyfarwyddwr/Ffidil

 

Rhaglen

  1. Lili Boulanger (new arrangement) D’un matin de printemps
  2. Louise Farrenc Nonet: Adagio-Allegro
  3. Jean Françaix Dixtuor: III.Scherzando IV. Allegro
  4. Olli Mustonen Nonetto II: I. Inquieto II. Allegro Impetuoso III. Adagio IV. Vivacissimo
  5. Felix Mendelssohn Octet: I. Allegro moderato ma con fuoco II. Andante III. Scherzo: Allegro leggierissimo IV. Presto

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor