Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Sinfonia Cymru: A Grand Tour

Dydd Mercher 4 Chwefror 2026 - Dydd Iau 5 Mawrth 2026

Dychmygwch eich bod yn gwisgo esgidiau teithiwr o’r 18fed ganrif, ac ymunwch â ni ar Daith Fawreddog gerddorol trwy salonau, strydoedd a chorneli cudd Ewrop. Gyda’n gilydd, cawn glywed melodïau anghofiedig yn dod yn fyw unwaith eto mewn cyngerdd sy’n gyforiog o ailddargarfod a hyfrydwch.

Ni fyddai’r un Daith Fawreddog yn gyflawn heb drip i Fienna, lle daeth y Mozart ifanc o hyd i enaid hoff cytûn yn Marianne Martines, cyfansoddwraig hynod dalentog. Mae ei Sonata yn A Fwyaf yn pefrio â ffraethineb a cheinder, yn debyg iawn i’r Divertimento ar gyfer Triawd Llinynnol gan Mozart, sy’n teimlo fel petai wedi cael ei gyfansoddi ar gyfer prynhawn ymlaciol mewn caffi ar piazza.

Ar ôl hynny byddwn yn teithio i Wlad Pwyl, lle bydd y Nocturnes barddonol gan Maria Szymanowska – pianydd a chyfansoddwraig a ddethlid ledled Ewrop – yn cynnwys moment o adlewyrchiad telynegol. Ac yn Sbaen, bydd La Musica delle Strade di Madrid (Cerddoriaeth y Nos o Strydoedd Madrid) gan Boccherini yn dod ag egni bywiog y strydoedd yn fyw.

Ein harweinydd ar y daith yw Eddie Mead, soddgrythor gyda Sinfonia Cymru, nad yw bob amser yn dilyn y llwybr arferol. Mae’n chwarae darn unawdol atgofus gan Sofia Gubaidulina, cyn troi am yr Alban ar gyfer alawon gwerin bywiog o waith Niel Gow, ffidlwr chwedlonol o’r 18fed ganrif.

Bydd ein Triawd Llinynnol yn perfformio ar offerynnau sy’n dyddio o’r cyfnod pryd y cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi, sy’n golygu y bydd y sain yr un fath yn union ag yr oedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Felly paciwch eich bagiau ac ymuno â ni am antur gerddorol – lle mae pob nodyn yn gam yn ôl mewn amser, a phob alaw yn adrodd stori.

Ezo Dem Sarici Ffidil

Joseph Lowe  (Casnewydd, Llambed)| Ben Norris (Y Barri) Fiola

Edward Mead Soddgrwth

Rhaglen

  1. Sofia Gubaidulina Prelude No. 3
  2. Marianne Martines Sonata in A major
  3. Mozart Excerpts from Divertimento for String Trio
  4. Maria Szymanowska Minuet
  5. Boccherini Excerpts from La Musica della Strade Di Madrid

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor