Regenerate: Seasons for Change YMARFER AGORED
Dewch i ymuno â ni y tu ôl i’r llenni yn ein taith Regenerate: Seasons for Change! Dewch draw i’r ymarfer agored yn Neuadd Gregynog ddydd Iau 13 Mehefin i gael cipolwg ecsgliwsif o’r broses o ymarfer, a gwylio wrth i’r cerddorion wneud eu paratoadau munud-olaf i’r rhaglen fywiog hon, sydd wedi’i chanoli ar yr hinsawdd.
Er nad oes angen talu i fynychu’r ymarfer agored, bydd arnoch angen tocyn. Cofiwch, dim ond cipolwg gewch chi yn yr ymarfer o’r hyn sydd i ddod yn ystod y daith! Er mwyn cael y profiad llawn, ewch draw i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 27 Gorffennaf, neu fynychu un arall o’n perfformiadau yng Nghricieth, Caerdydd neu Bontyberem.