Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Nocturnal

Dydd Mercher 1 Ebrill 2026 - Dydd Iau 2 Ebrill 2026

“In the dark, I listen to the world’s slow rhythms. It’s in the night when I feel most at home in myself.” – Sylvia Plath, The Bell Jar 

Sail y cyngerdd hwn yw’r newid sy’n digwydd pan fo’r haul yn machlud. Hymian tawel y strydoedd, y modd mae’r cysgodion yn ymestyn ymhellach, a’r meddyliau sydd ond yn codi i’r wyneb yn y tywyllwch. Ymunwch â ni am awr hudolus o gerddoriaeth ddynamig a chyffrous, a’r nos yn thema iddi.  

Mae’r Pedwarawd Llinynnol Rhif 3 gan Philip Glass yn nodweddiadol o’i gerddoriaeth lesmeiriol a myfyriol. Roedd yn ffurfio rhan o drac sain y ffilm bywgraffiadol o 1985, Mishima: A Life in Four Chapters – ffilm sy’n sôn am fywyd awdur ac ymgyrchydd dadleuol o Japan, lle mae cerddoriaeth  Glass yn dangos trawsnewidiadau yn y cymeriadau o oleuni i dywyllwch. 

Ysbrydolwyd cyfansoddiad Terry Riley, Sunrise of the Planetary Dream Collector, gan sgwrs a gafodd y cyfansoddwr gyda merch saith oed ei ffrind am ffigur goruwchnaturiol sy’n casglu a dosbarthu breuddwydion (meddyliwch am The BFG . . .). Mae’n waith hynod egnïol, yn llawn neidiadau a throadau, a phethau sy’n cripian o gwmpas yn y nos.  

Anna Tulchinskaya, sy’n fiolinydd gyda Sinfonia Cymru, fu’n gyfrifol am guradu’r cyngerdd hwn. A hithau’n gerddor hynod dalentog, mae’n bosib eich bod yn ei chofio o gyngerdd y llynedd, oedd yn cynnwys Pedwarawd Llinynnol Rhif 11, a deithiwyd gennym i Lambed, Casnewydd, Cas-gwent a’r Gelli Gandryll. Mae hi’n teithio i mewn i’r nos gyda’n pedwarawd llinynnol ni o gerddorion proffesiynol dynamig dan 30 oed. Mae hi hefyd yn cyflwyno cerddoriaeth dau gyfansoddwr sy’n gyfarwydd iddi, sef Emma Jean a James Weatherley-Buss, a chanddynt eu dehongliadau cerddorol eu hunain o’r bore bach.  

Os ydych chi erioed wedi sylwi arnoch chi’ch hun yn syllu drwy ffenest am hanner nos, ar goll yn eich meddyliau, dyma’r darn i chi. 

Rhaglen

  1. Emma Jean The Sound of Sleepless Kings
  2. Maurice Ravel String Quartet in F major - I. Allegro moderato
  3. Philip Glass String Quartet No.3 'Mishma'
  4. Terry Riley Sunrise of the Planetary Dream Collector

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor