Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Memo Mornings

Dydd Iau 5 Mawrth 2026 - Dydd Iau 4 Mehefin 2026

Ymunwch â ni yn y Memo, Y Barri, am fore ymlaciol o gerddoriaeth fyw, a brec o brysurdeb bywyd.

Does dim byd ffurfiol am y cyngherddau yma, dim ond awr o alawon hardd mewn awyrgylch groesawgar.

Dewch i fwynhau darnau cyfarwydd, ac ambell sypreis gan grwpiau o dri i bump cerddor, rhai o’r cerddorion ifanc gorau yn y wlad.

A gwell fyth – cewch fwynhau paned a chacen hefyd!

Os ydech chi’n ffan mawr o gerddoriaeth neu’n edrych am ffordd hwyliog i dreulio’r bore, ein Memo Mornings yw’r lle i chi.

Tocynnau: £9 y Sioe

Bargen y Bwndel: Archebwch docynnau i ddwy sioe Memo Mornings a cewch ostyngiad o 10%. 15% o ostyngiad ar gyfer tair sioe.

Cynnig Te a Chacen: Dim ond £3 ychwanegol y pen i bob sioe. Ychwanegwch hwn wrth archebu eich tocynnau.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor