Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Medal y Cyfansoddwr

Dydd Sadwrn 9 Awst 2025

Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chyfansoddwr o Gymru/wedi eu lleoli yng Nghymru i gyfansoddi darn ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru. Bydd darn pob cyfansoddwr yn cael ei berfformio yn y Pafiliwn ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, a bydd un cyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr ariannol. Cyflwynir y llwybr gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.

Yn dilyn galwad agored hynod boblogaidd a chystadleuol, y tri chyfansoddwr a ddewiswyd i gymryd rhan yn y llwybr clodfawr hwn eleni yw Jon Guy, Sarah Lianne Lewis ac Owain Gruffudd Roberts. Dros y chwe mis diwethaf, maent wedi gweithio gyda thriawd llinynnol Sinfonia Cymru, sef Simmy Singh (ffidil), Hannah Roberts (fiola) a Garwyn Linnell (sielo), a’r cyfansoddwr-mentor Pwyll ap Siôn, i gyfansoddi darn o gerddoriaeth sy’n dathlu canmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis, un o brif awduron Wrecsam. Bydd pob cyfansoddiad yn ymateb i’w nofel epig Wythnos yng Nghymru Fydd.

Bydd y darnau o waith y cyfansoddwyr yn cael eu perfformio yn Seremoni Medal y Cyfansoddwr, a gynhelir ar brif lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Fel un o brif ddigwyddiadau’r Eisteddfod, cynhelir y seremoni ddydd Sadwrn, 9 Awst, pryd y caiff enillydd y gystadleuaeth eu henwi a’u dathlu.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor