Sinfonia Cymru a Max Richter
Rydym wrth ein bodd i gael chwarae gyda’r cyfansoddwr Max Richter, un sydd wedi ei enwebu am wobr Emmy, yn ystod ei berfformiad cyntaf erioed yma yng Nghymru. Mae’r gyngerdd yn rhan o Ŵyl y Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae gwaith Max Richter yn cwmpasu trylwyredd y traddodiad clasurol a dulliau arbrofol electronica cyfoes. Er bod y gerddoriaeth yn soffistigedig mae’n apelio at gynulleidfa eang.
Y darn sy’n cael ei berfformio yma yw Voices, sydd wedi ei greu mewn cydweithrediad gyda Yulia Mahr, enillydd BAFTA ac un sy’n enwog am ei gwaith dyngarol. Mae Voices yn 56 munud o gerddoriaeth cerddorfaol, corawl, electroneg, unawd soprano, unawd ffidil a phiano, ac fe gafodd ei ryddhau yn ystod y cyfnod clo yn 2020. Mae’r gerddorfa yn y darn wedi ei ail ffurfio i ensemble sy’n cael ei weld fel ‘cerddorfa negyddol’. Wedi i’r byd gael ei droi ben i waered, dyma hefyd sydd wedi digwydd i’r gerddorfa yn y darn hwn, sydd yn cynnwys basau a celo yn bennaf.