Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Cyngerdd Telyn gydag Alis Huws

Dydd Iau 11 Medi 2025
Music Theatre Wales a Sinfonia Cymru yn cyflwyno cyngerdd telyn arbennig iawn gyda’r cyn Delynores Frenhinol Alis Huws, sydd wedi’i henwi’n Rising Star Classic FM. Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn gyfle delfrydol i brofi hud y delyn mewn rhaglen sy’n llawn alawon rhamantus a cheinciau gwerin Cymru. A pheidiwch â cholli Alis am 7:30pm yn ddiweddarach y noson honno, wrth iddi ymuno â cherddorfa siambr Sinfonia Cymru yn Theatr y Parc a’r Dâr ar gyfer digwyddiad pwerus Music Theatre Wales, Ein Cerddoriaeth, Ein Stori.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor