Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Gregynog – cyngerdd y Gwanwyn

Dydd Sul 8 Mai 2022

I nodi cydweithrediad tair-blynedd gydag Ymddiriedolaeth Gregynog, mae Sinfonia Cymru yn lansio ei chyfnod preswyl cyntaf yn Neuadd Gregynog gyda cyngerdd y Gwanwyn ar gyfer pedwarawd llinynnol.

Neuadd Gregynog oedd cartref Gwendoline a Margaret Davies, y chwiorydd adnabyddus a gyfrannodd gymaint yn lleol ac yn genedlaethol i gefnogi celf, barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd eu casgliad rhyfeddol o gelf yn cynnwys nifer fawr o baentiadau gan artistiaid argraffiadol, sydd bellach yn rhan o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Byddai’r chwiorydd yn gwahodd llu o gerddorion dawnus i’w cartref, gan ei gynnig fel encilfa lle gallai artistiaid greu eu gwaith.

Braint i Sinfonia Cymru yw cael cynnig cyfle i dreulio cyfnod preswyl blynyddol yng Ngregynog, gan roi blas i’n cerddorion ifanc proffesiynol o’r hyn y gallai Holst, Elgar a Barbirolli fod wedi cael profiad ohono pan fuont yn aros yno. Bydd y cyngerdd i Bedwarawd Llinynnol, a gynhelir yn Ystafell Gerddoriaeth y chwiorydd Davies, yn cynnwys cerddoriaeth oedd yn rhan o’r repertoire a berfformiwyd yn rhai o’r Gwyliau Cerddoriaeth a Barddoniaeth cynnar yn y 1930au, ynghyd â gweithiau mwy newydd y dylanwadwyd arnynt gan y repertoire hwnnw.

Yn ogystal â’r cyngerdd cyhoeddus yng Ngregynog, byddwn yn defnyddio’n hamser i weithio gydag ysgolion cynradd lleol, cartrefi preswyl, a Phonthafren, sef elusen leol sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, arwahanrwydd cymdeithasol neu eithrio.

Byddwn hefyd yn mynd â’n cerddoriaeth ymhellach, gyda pherfformiadau’n cael eu cynnal ledled Powys fel rhan o’n Taith Neuaddau Pentref yn Bennaf, ac rydym wrth ein bodd bod y bartneriaeth gyda Gregynog yn ein helpu i gyflawni hyn. Edrychwch allan am y perfformiadau Neuaddau Pentref yn Bennaf yn Aberdyfi, Derwenlas, Tre’r-ddôl, Llangammarch a Llanymynech.

Y Cerddorion

Roberto Ruisi, ffidil / Hatty Haynes, ffidil / Kate de Campos, fiola / William Clark-Maxwell, soddgrwth

Cefnogir y prosiect hwn gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies

Rhaglen

  1. Saturday 7 May, 7.30pm Cancelled due to operational reasons
  2. Sunday 8 May, 3pm Including
  3. Britten Divertimenti
  4. Danish String Quartet Selection from 'Last Leaf'
  5. Ravel Movement from String Quartet in F

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor