Folk, Fire and the Cello
O alawon cynhyrfus Dobrinka Tabakova i egni crai Bartók, dyma gyngerdd sy’n daith wyllt trwy weadau daearol a chyferbyniadau cyffrous. Ymunwch â ni wrth i enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC, Laura van der Heijden, sy’n adnabyddus am ei chwarae ‘meddylgar, pwerus a didwyll’ (BBC Music Magazine), arwain Sinfonia Cymru mewn noson wefreiddiol.
Yn greiddiol i’r rhaglen mae’r Concerto Soddgrwth gan y cyfansoddwr Prydeinig-Bwlgaraidd Dobrinka Tabakova, campwaith modern sy’n cael ei berfformio’n gyson ledled y byd. Mae’r darn yn hardd ac yn ein atgoffa o’r arddull gwerin, wrth i’r agoriad cythryblus esblygu i ail a thrydydd symudiad sydd mor dyner, ac yn aros yn y meddwl ymhell wedi’r nodyn olaf.
Yn dilyn mae Divertimento ar gyfer Llinynnau gan Bartók, gwibdaith drydanol ac afreolus sy’n llawn egni tanllyd, ac wedi’i ysbrydoli gan ddawns werin.
Bydd y chwaraewr soddgrwth Laura van der Heijden yn ymuno â ni ar y siwrnai hon. Fel enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2012, mae’n gydymaith perffaith i’n cerddorion proffesiynol talentog, pob un dan 30 oed. Mae Laura wedi curadu nifer o gadwyni o alawon arbennig i’w plethu trwy’r cyngerdd, gan gyfuno caneuon traddodiadol Cymreig, alawon gwerin a straeon tylwyth teg.
Efallai mai’r egni grymus sy’n eich denu? Neu harddwch a hudoliaeth caneuon gwerin Cymru? Beth bynnag fo’r rheswm, ry’n ni’n addo profiad arbennig fydd yn eich cyffwrdd, eich cyffroi a’ch synnu.
Rhaglen
- Élisabeth Jacquet De la Guerre (1665-1729) Céphale et Procris, Act IV Scene 6: Les démons
- Grace Williams (1906-1977) The Dark Island, II. Barcarolle
- Hildegard von Bingen (c.1098-1179) Antiphons
- Pablo Casals (1876-1973) Song of the Birds
- Caroline Shaw (b.1982) Plan & Elevation, II. The Cutting Garden
- Maurice Ravel (1875-1937) arr. Martelli Mother Goose, V. The Enchanted Garden
- Dobrinka Tabakova (b.1980) Concerto for Cello and Strings
- Leroy Anderson (1908-1975) Plink, Plank, Plunk!
- John Rutter (b.1945) Suite for Strings, I. A-Roving II. I Have a Bonnet Trimmed with Blue
- Patrick Rimes (b.1992) Galliard-Bourree
- Trad. arr. Patrick Rimes Ar Lan y Môr
- Trad. arr. Danish String Quartet Nordic Suite, II. Scherzo: Staedelil
- Béla Bartók (1881-1945) Divertimento for Strings