Festive Chamber
Bachwch fins pei, ac ymunwch â ni i fwynhau hwyl yr ŵyl yn ein ein cyngherddau cwtshlyd awr o hyd. Ein cerddorion ifanc dawnus, sy’n ymuno â chorau lleol a thalentog i gyflwyno cerddoriaeth Nadoligaidd a cherddoriaeth glasurol i gynhesu’r galon. Cewch wahoddiad i ymuno yn y carolau, ond os oes well ganddoch wrando a bwyta mins peis, mae hynny’n hollol iawn – mae hi yn Nadolig wedi’r cyfan!
Dyma rhai o‘r corau sy’n cymryd rhan; Côr Siambr Quindici yn Neuadd Gregynog, Côr Take a Breath yng Nglan yr Afon, Casnewydd a Côr Merched Glannau’r Gwendraeth ym Mhontyberem.
Rhaglen yn cynnwys: Piano Quintet gan Schumann, mewn E Flat (symudiad cyntaf); Piano Quintet Amy Beach mewn F-Sharp Minor (ail symudiad), Piano Quintet Samuel Coleridge-Taylor mewn G Minor (pedwerydd symudiad) a chasgliad o’n hoff garolau Nadolig!
Cerddorion: Thomas Mathias (Ffidil 1), Ezo Dem Sarici (Ffidil II), Ben Norris (Fiola), Edward Mead (Soddgrwth) a Joe Howson (Piano).