Cymuned Sessions: Music for Piano and Wind Instruments
Dydd Iau 18 Mehefin 2026 - Dydd Gwener 19 Mehefin 2026
Yn cyflwyno ein Sesiynau Cymuned – Cerddoriaeth wrth Galon eich Cymuned.
Mae Cymuned wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Ymunwch â cherddorion ifanc hynod dalentog Sinfonia Cymru am gyngerdd awr o hyd, sy’n dod â cherddoriaeth fyw yn syth i’ch ardal leol. Mae croeso cynnes i bawb, a’r tocynnau’n rhad ac am ddim – ond cofiwch drefnu tocyn o flaen llaw i sicrhau eich lle.