Cyngerdd Nadolig: Clasuron a Charolau
Ymunwch yn hwyl yr Ŵyl yn ein cyngerdd Nadolig, gyda cherddoriaeth i’ch cynhesu ar ddiwrnod oer o Ragfyr. Wrth i’r dyddiau fyrhau, gadewch i’n ffefrynnau clasurol a charolau poblogaidd eich lapio’n gynnes braf.
Mae gan ein pumawd chwythbrennau talentog – sy’n cynnwys y ffliwt, obo, clarinét, corn a basŵn – sain tyner a chynnes fel tanllwyth o dân sy’n ddelfrydol ar gyfer y gaeaf. Bydd y profiad fel yr ‘hygge’ Danaidd hwnnw, yn gwtshlyd a phleserus ac yn ffordd wych o dreulio amser gyda ffrindiau.
Bydd ein cerddorion yn perfformio cerddoriaeth glasurol boblogaidd sydd wedi’i threfnu ar gyfer eu hofferynnau. Bydd corau lleol yn ymuno i berfformio carolau bywiog, a bydd cyfle i ymuno mewn yn y canu os hoffech chi.
Dyma gyngerdd sy’n cynnig seibiant perffaith yng nghanol prysurdeb mis Rhagfyr, ac i ail gysylltu â phleserau syml yr Ŵyl.