Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Chasing Sunlight

Dydd Gwener 6 Mehefin 2025 - Dydd Sul 6 Gorffennaf 2025

Yr haf hwn, rydyn ni ymhlith dyrnaid o sefydliadau a ddewiswyd gan y PRS Foundation i fod yn rhan o’u New Music Biennial lle rhoddir sylw i’r artistiaid sy’n gwthio ffiniau cerddoriaeth newydd yn y DU. Ymunwch â ni yn Llundain ac yn Ninas Diwylliant Bradford i weld a chlywed Chasing Sunlight – darn newydd, cyffrous gan y cyfansoddwr arobryn Mark David Boden. 

‘Concerto Clyweledol’ yw Chasing Sunlight. Yn syml, mae’n golygu y bydd ein cerddorfa’n perfformio ar lwyfan o flaen tafluniadau fideo. Bydd yn siŵr o gyfareddu eich synhwyrau gyda’i gyfuniad hyfryd o gerddoriaeth a delweddau. 

Ysbrydolwyd y gerddoriaeth a’r elfennau gweledol gan daith 40,000 milltir môr-wennol y Gogledd wrth iddi ymfudo o begwn i begwn. Crëwyd yr elfennau gweledol gan grwpiau o ffoaduriaid sydd wedi dianc rhag gwrthdaro, a cheiswyr lloches yn Bradford a Chaerdydd, mewn adlewyrchiad teimladwy o ddadleoli a dygnwch. 

Yn ymuno â ni i berfformio’r concerto mae’r fiolinydd enwog Fenella Humphreys, sy’n arbenigo ar berfformio cerddoriaeth newydd. Mae’r cyfansoddwr Mark David Boden yn rhoi gwersi ar gyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae’r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i adrodd straeon arloesol a thrawiadol trwy gyfrwng cerddoriaeth. Ymunwch â ni yn y New Music Biennial a bod yn rhan o rywbeth bythgofiadwy.

Bydd pob cyngerdd yn para am awr. Byddwch yn clywed perfformiad cyntaf o Chasing Sunlight. Yna cewch gyfle i ddysgu gan y cyfansoddwr a’r unawdydd beth oedd wedi eu hysbrydoli a’u cymell i greu’r darn hwn; wedi’ch arfogi â’r mewnwelediad yma, byddwch yn clywed y darn yn cael ei berfformio am yr ail dro.  

Cyfansoddwr Mark David Boden
Ffidil Fenella Humphreys
Crëwyd y cynnwys ffilm gan Gôr Oasis One World a’r Bradford Refugee Action BRAVE Group
Golygydd Gweledol Emily Darlington, Ratio Studios

Rhaglen

  1. Mark David Boden Chasing Sunlight

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor