All About the Bass
Dydd Mercher 1 Hydref 2025 - Dydd Iau 2 Hydref 2025
Fel arfer, y ffidlau mewn cerddorfa linynnol sy’n arwain y gerddoriaeth – ond yn y gyngerdd hon, y bas dwbl, sef yr offeryn isaf a dyfnaf, fydd yn arwain. O dan guraduriaeth basydd Sinfonia Cymru, Martin Ludenbach, bydd 12 chwaraewr offerynnau llinynnol yn uno i ddod â sain gyfoethog, rhythm a llinellau bas anhygoel i chi. Cewch glywed ffefrynnau clasurol, gan gynnwys Air on a G String gan Bach, Adagio and Fugue gan Mozart, a Serenade for Strings gan Tchaikovsky, ynghyd â cherddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Bwlgaraidd-Brydeinig, Dobrinka Tabakova