Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Alis Huws: Golden Age of Harp

Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 - Dydd Sadwrn 5 Ebrill 2025

Dyma gyfle prin i brofi hud pumawd telyn. Alis Huws y delynores o Faldwyn a ‘Rising Star’ Classic FM sy’n dychwelyd i Sinfonia Cymru i arwain ensemble o bump yn cynnwys telyn, ffliwt, ffidil, fiola a soddgrwth. Gyda’i gilydd byddant yn cyflwyno cerddoriaeth o oes aur y delyn o Ffrainc a gwlad Belg. Mae Alis wedi paru’r gerddoriaeth rhamantus yma ar gyfer pumawd, gyda cherddoriaeth mwy diweddar o Gymru ac America, darnau sydd wedi’i ysbrydoli gan y byd naturiol, ac sy’n dangos sut mae cyfansoddwyr yn ysgrifennu ar gyfer y delyn heddiw. Dyma gyfle prin i fwynhau’r gyn delynores Frenhinol, ochr yn ochr â rhai o’r cerddorion ifanc dan 30 oed mwyaf dawnus ym Mhrydain.

Ymunwch â’r cerddorion cyn y gyngerdd am gyflwyniad i gerddoriaeth Joseph Jongen, â’r darn enwog “Concert cinq”.

The Golden Age of Harp Programme

Rhaglen

  1. Charles Rochester Young (USA, b 1965) Song of the Lark (1989)
  2. Guy Ropartz (France, 1864-1955) Quintet (1924)
  3. Eloise Gynn (UK, b 1985) Song for an Ancient Tree (2021)
  4. Joseph Jongen (Belgium, 1873-1953) Concert a cinq, Op. 71 (1923)

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor