Tîm Sinfonia Cymru
-
Caroline Tress
Prif Weithredwrcaroline@sinfonia.cymruCefais fy magu mewn teulu o gerddorion a threfnwyr cerdd, yn chwarae’r piano a’r fiola (ac os gallwch ddweud jôc am fiola wrtha i, nad ydw i wedi ei chlywed o’r blaen, fe brynaf baned o goffi i chi!). Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, es i weithio fel cyfrifydd gyda chwmni gwasanaethau ariannol mawr, ond buan iawn y sylweddolais fy mod yn colli’r profiad o fod yn gysylltiedig â cherddoriaeth a cherddorion – felly dihangais i ddechrau gyrfa ym maes y celfyddydau.
Ers hynny, rydw i wedi gweithio i Opera Cenedlaethol Cymru a’r English Touring Opera, ac fel Rheolwr Cyffredinol yr Oxfordshire Youth Arts Partnership – sefydliad sy’n grymuso pobl ifanc i wneud newidiadau positif i’w bywydau a’u cymunedau drwy gyfrwng prosiectau celf. Rhwng 2017 a 2022 ro’n i’n Rheolwr Cyffredinol Gŵyl Bro Morgannwg, ac yna Music Theatre Wales – dau sefydliad sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth glasurol gyfoes.
Ymunais â Sinfonia Cymru ym mis Hydref 2022 – mae’n sefydliad rwyf wedi ei ddilyn a’i edmygu ers sawl blwyddyn, ac rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r ethos sydd yma, sef creadigrwydd, cydweithio . . . ac antur!
-
Tammy Daly
Rheolwr CyffredinolTammy@sinfonia.cymruCefais fy magu yng Ngogledd Dyfnaint a phenderfynais fy mod i eisiau chwarae’r corn Ffrengig ar ôl gweld cyngerdd pumawd chwyth a meddwl ei fod yn edrych yn eithaf diddorol! Nid oeddwn erioed yn wych arno, ond es ymlaen i goleg cerdd yng Nghaerdydd ac yna Manceinion, lle sylweddolais yn fuan fod fy sgiliau’n fwy addas ar gyfer yr ochr logisteg a rheoli ym maes creu cerddoriaeth. Roedd fy swydd gyntaf gyda Sinfonia Cymru fel rheolwr cerddorfa yn 2008, cyn symud i oleuadau llachar Llundain am 7 mlynedd ac yna dychwelyd i Sinfonia Cymru yn 2017. Rwyf wrth fy modd â’r amrywiaeth o gerddoriaeth a pherfformiadau a geir gan y gerddorfa yma, a’r egni, y rhagoriaeth a’r positifrwydd y mae’r holl gerddorion rhagorol yn eu cyfrannu i bob prosiect. Yn fy amser hamdden, rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth fyw o bob genre gwahanol, ac yn mwynhau’r awyr agored!
-
Joseph Evans
Rheolwr Cyngherddau a PhrosiectauJoseph@sinfonia.cymruBu’n llawer gwell gen i ddarllen a siarad am gerddoriaeth na’i chwarae o hyd (mae fy nhrwmped wedi bod yn ei gês ers dwy flynedd o leiaf bellach) ac rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn Rhydychen a Chaergrawnt yn obsesu am ffiwgiau. Mae’n wych fy mod i’n gallu parhau i sgwrsio â phobl sy’n dwli ar gerddoriaeth a bod yn rhan o gynllunio prosiectau cyffrous ac amrywiol, gan weithio gyda phersonoliaethau cerddorol mor ddiddorol. Cefais fy magu yng Nghaerdydd, a dyna lle cefais fy holl brofiadau cerddorol cyntaf, felly rwy’n falch o fod yn rhan o’r diwylliant cerddorol yma eto. Pan nad ydw i’n meddwl am gerddoriaeth, rwy’n hoffi gweithio fy ffordd drwy fy nghasgliad cynyddol fawr o lyfrau ryseitiau, sy’n nesáu at bum deg ar hyn o bryd.
-
Becky Mercer
Cydlynydd Cynulleidfa a Chymunedaubecky@sinfonia.cymruWnes i dyfu fyny yn Fife yn yr Alban, yr unig reswm wnes i ddechrau chwarae’r corn, oedd oherwydd nad oeddwn i’n ddigon tal i chwarae’r trombôn! Wnes i gwblhau fy Ngradd ym Mhrifysgol Aberdeen cyn symud i Gaerdydd i wneud Gradd Meistr mewn Perfformiad Cerddorfaol yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Wedi blwyddyn o’r pandemic a blwyddyn fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, a dyma fi yma yn Sinfonia Cymru! Dwi’n caru’r diwylliant cerddorol yma yn Ne Cymru, a pan nad ydw i yng nghanol y bwrlwm hwnnw, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nghi ac yn mynd i’r theatr.
-
Heulwen Davies
Ymgynghorydd Marchnataheulwen@llaiscymru.walesShwmae, Heulwen ydw i a thrwy fy musnes Llais Cymru, rydw i wedi bod yn arwain y Marchnata ar gyfer Sinfonia Cymru ers Medi 2021. Rwy’n caru cerddoriaeth, rydw i wrth fy modd yn canu, mae’n fy ymlacio, yn gwneud i mi deimlo’n hapus ac yn fyw, ond dydw i erioed wedi llwyddo i chwarae offeryn! Rhoddais gynnig ar yr utgorn ond ni allwn gael unrhyw synau dymunol allan ohono, gwaharddwyd fy recorder a fy chwiban Wyddelig o gartref y teulu, dywedodd fy athro ffidil bod fy nghanu yn llawer gwell, felly treuliais fy ngwersi ffidil yn canu yn lle! Yn fy 30au, ceisiais eto gyda gwersi piano ochr yn ochr â fy mhlentyn 5 oed, ni chefais unrhyw hwyl arni! Felly, rydw i’n canolbwyntio ar fy nghryfderau fy hun ac yn mwynhau’r cyfle i rannu straeon ein cerddorion anhygoel a’r gerddorfa hwyliog hon sef Sinfonia Cymru. Cerddorion, dwi’n codi fy het i chi!
-
Simmy Singh
Cydymaith Creadigols.singh.violin@gmail.comCefais fy ngeni a fy magu yn Llandybie lle cefais ddysgu cerddoriaeth gan fy mam anhygoel. Es i draw i Ysgol Gerdd Chetham’s pan oeddwn i’n 16 oed ac es ymlaen i’r RNCM ar ôl hynny a nawr yn mwynhau bywyd lliwgar ac amrywiol fel feiolinydd clasurol a thrawsgroesiad. Rwy’n angerddol am wthio ffiniau a chredaf mai amrywiaeth yw sbeis bywyd mewn gwirionedd a cheisiaf fyw yn driw i hynny yn fy ngyrfa lawrydd. O gyd-ddod o hyd i’r Manchester Collective, i arwain Cerddorfa Kaleidoscope, recordio tannau ar gyfer cynhyrchwyr electronig a chwarae gyda rhai o artistiaid jazz mwyaf cyffrous y wlad gyda fy mhedwarawd, Amika, rwyf wrth fy modd â phob rhan o’r hyn rwy’n ei wneud. Tan yn ddiweddar, pan gyrhaeddais y cap oedran, roeddwn yn aelod hir sefydlog o Sinfonia Cymru ac mae wir wedi helpu i fy siapio i mewn i’r cerddor rydw i heddiw. Rwy’n falch iawn o allu parhau â’r siwrnai gyda’r teulu anhygoel hwn yn fy rôl fel Cydymaith Creadigol ac i ddal ati i wthio, archwilio a thyfu gyda’n gilydd, i roi’r cyfan maen nhw wedi’i roi i mi yn ôl a dod â’r cyfan yn ôl adref!
-
Caroline Harris
Ymgynghorydd datblygudevelopment@sinfonia.cymruMae cerddoriaeth yn ei holl ffurfiau wastad wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd, a gorau oll po fwyaf arloesol y bydd, gan groesi pob genre. Rwy’n dal i chwarae’r clarinét (yn amatur iawn), er bod hyn yn anoddach pan fyddwch chi’n treulio’ch bywyd yn gwrando ar gerddorion proffesiynol! O ran gyrfa, dechreuais fywyd fel cyfreithiwr ond nid cyfrinach fawr oedd fy mod bob amser wedi dymuno gweithio ym maes y celfyddydau. Yn 2009, cymerais y cam hwnnw, gan weithio am chwe blynedd yng Nghanolfan y Barbican ac am bedair blynedd gyda Cherddorfa Aurora, ac fel ymddiriedolwr prosiect drymio cymdeithasol Drum Works. Mae wedi bod yn bopeth y gobeithiais y byddai – gyda’r “gwaith” yn cynnwys gwylio ymarfer ymhlith cerddorfa, neu wrando ar artistiaid o’r radd flaenaf yn tiwnio i fyny yng nghefn y llwyfan! Does dim byd gwell! Rwy’n credu’n angerddol mewn creu cyfleoedd mewn cerddoriaeth ac rwyf wrth fy modd yn cyfrannu at hynny gyda Sinfonia Cymru.
-
Gareth Jones
Sylfaenydd a Chynghorydd Artistig(English) Sinfonia Cymru was founded in 1996, by Welsh conductor Gareth Jones, and played an important role in Wales as a training orchestra for young musicians. Gareth has been an important figure for Sinfonia Cymru throughout its history. He was the first Principal Conductor for the orchestra and since 2018, Sinfonia Cymru’s Artistic Advisor. He has conducted the orchestra in many prestigious performances, including, most recently, a tour of Wales and the UK with Sir Bryn Terfel in Autumn 2022.
-
Wiard Sterk
CadeiryddCefais fy ngeni a’m magu yn yr Iseldiroedd. Ar ôl methu’n drychinebus mewn ymdrech i ddysgu chwarae’r ffidil, rhoddais gynnig ar y clarinet yn y gobaith y byddai’n fy siwtio’n well. Fodd bynnag, buan iawn y penderfynais mai’r peth gorau i mi – ac i unrhyw un o fewn clyw – fyddai rhoi’r gorau’n llwyr i chwarae offeryn; symudais i Lundain yn 1982 ac i Gymru ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd fy ngyrfa gynnar ym maes rheoli llwyfan a theatr, yn gweithio i gwmnïau megis Made in Wales, Opera Cenedlaethol Cymru, Hijinx Theatre (lle y llwyddais, o’r diwedd, i chwarae ambell nodyn cerddorol mewn un cynhyrchiad), Theatr Clwyd, Theatr Sherman a Theatr Hafren. Ar ôl ennill gradd mewn Hanes Celf gyda’r Brifysgol Agored ymunais â CBAT, yr Asiantaeth Celf ac Adfywio, yn yr 1990au cynnar fel Rheolwr Prosiect ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Comisiynau ar gyfer prosiectau celf cyhoeddus. Yn 2003 penodwyd fi’n Gyfarwyddwr CBAT ac yna, yn dilyn cyfuno cwmnïau bedair blynedd yn ddiweddarach, yn Gyfarwyddwr Gweithredol cyntaf Safle, yr asiantaeth a ddaeth yn sgil CBAT. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yn gyfrifol am nifer o brosiectau creadigol cyhoeddus llwyddiannus a rhaglenni comisiynau celf ledled Cymru a gweddill y DU.
Dros y degawd diwethaf bûm yn gweithio fel ymgynghorydd celf llawrydd ac fel cyfieithydd o bryd i’w gilydd. Yn dilyn y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016 bûm yn ymgyrchu dros warchod hawliau Dinasyddion yr UE fel eiriolwr ar ran ‘the3million’. Ro’n i’n gyfrifol am ddrafftio a darparu arweiniad hawdd ei ddilyn ar fewnfudo mewn perthynas â Chynllun Setliad yr UE ar gyfer dinasyddion bregus yn yr UE, a helpu i sicrhau cyllid ar gyfer rhoi cyngor ar fewnfudo yng Nghymru; roedd hwn yn gam pwysig yn y gwaith o sefydlu’r elusen Settled, sydd bellach yn cynnig cyngor rhad ac am ddim ar fewnfudo i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ac, yn fwy diweddar, i ffoaduriaid o Wcráin ledled y DU.
A minnau bellach wedi lled ymddeol, rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Tai Caredig ac yn Ymddiriedolwr gyda Settled, yn ogystal ag yn Gadeirydd Sinfonia Cymru – sefydliad ro’n i’n gefnogwr brwd ohono cyn i mi ymuno fel Ymddiriedolwr yn 2018.
-
Fflur Jones
Aelod o'r BwrddRydw i’n Bartner yn Darwin Gray ac yn bennaeth eu tîm Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol. Rydw i’n cynghori ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth ac mae gennyf arbenigedd a diddordeb penodol yn y gyfraith gwahaniaethu. Rydw i’n cyfrannu’n rheolaidd at raglenni radio a theledu, yn cynnal digwyddiadau hyfforddi, ac yn siarad mewn digwyddiadau a chynadleddau ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn y gweithle. Yn 2016, helpais sefydlu Rhwydwaith Adnoddau Dynol Cymru a Gwobrau Adnoddau Dynol blynyddol Cymru i annog arfer gorau yn y sector cyflogaeth a dathlu cyflawniadau gweithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol ledled Cymru.
-
Jo Marriott
Aelod o'r BwrddFi yw’r Rheolwr Marchnata ar gyfer cynulleidfaoedd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle rwy’n hyrwyddo tua 300 o ddigwyddiadau bob blwyddyn.
Rwyf wedi gweithio ym maes marchnata’r celfyddydau ers dros ddegawd gan gynnwys rolau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, ac fel ymgynghorydd marchnata i Sinfonia Cymru, Hijinx Theatre ac Ongl Design. Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, fe wnes i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydw i dal wrth fy modd yn chwarae cerddoriaeth gyda ffrindiau pan alla i. -
Simone Willis Tansley
Aelod o'r BwrddAstudiais y feiolin yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio yn 2014. Rydw i’n dal i addysgu a chwarae rhywfaint, ond yn ddiweddar rydw i wedi canolbwyntio ar ymchwil, gan ymgymryd â PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rydw i’n ymchwilio i straen yn y gweithle, ymdopi a llesiant cerddorion clasurol proffesiynol a myfyrwyr cerdd mewn ysgolion cerddoriaeth. Ochr yn ochr â hyn, rydw i’n Adolygwr Systematig ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth i lywio polisïau ac arferion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
-
Ali Vennart
Aelod o'r Bwrdd a Aelod Sinfonia Cymru (2012-2021)Pe byddech chi wedi gofyn wrtha’i yn fy arddegau cynnar beth y byddwn i’n ei wneud fel oedolyn, does dim siawns y byddwn i hyd yn oed yn sôn am Gerddoriaeth Glasurol! Byddech chi’n lwcus i gael y gair ‘Cerddoriaeth’ hyd yn oed, er, roeddwn i’n gwrando ar holl fandiau fy niwrnod: SOAD, Papa Roach, Sum41, Nirvana, ac ati, wrth sglefrfyrddio, casáu ysgol, gemau cyfrifiadur, yr holl bethau mae’r arddegwyr yn ei wneud. Dechreuais chwarae Fiola pan oeddwn yn 9 oed, dechreuais fwynhau cerddoriaeth go iawn o tua 14 oed, a syrthiais yn llwyr mewn cariad ag ef erbyn fy mod yn 16 oed, ‘jyst’ mewn pryd i gael fy holl raddau at ei gilydd ar gyfer gwneud cais i’r brifysgol. Ein taith ni sy’n rhoi llais unigryw i ni i gyd yn y byd hwn, sy’n dod â mi i’r rhan orau am fod yn gerddor – mae’n daith sydd byth yn dod i ben, ac edrychaf ymlaen bob dydd at yr hyn a allai fod yn dod rownd y gornel nesaf. …
-
Catrin Plumley
Aelod o'r BwrddTrwy dderbyn fy addysg mewn ysgol uwchradd ddifreintiedig, rwyf wedi cael profiad uniongyrchol o fod yn dyst i bwysigrwydd cael mynediad i bawb at y celfyddydau. Heblaw am y cyfleoedd a gefais drwy raglenni celfyddydol i bobl ifanc, yn enwedig Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ni fyddwn wedi gallu datblygu fel cerddor nac fel unigolyn. Datblygodd fy angerdd am gerddoriaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyfranogi’n eang yn y celfyddydau yng Nghymru am y rhan fwyaf o’m hoes. Rwyf wedi fy hyfforddi fel cantores, ac yn ogystal â chwarae’r clarinet a’r piano rwy’n treulio fy amser hamdden yn canu gyda Chantorion John S. Davies Singers ac yn rhoi gwersi canu. Astudiais y Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste a threulio rhan gyntaf fy ngyrfa’n gweithio ym maes Cyfraith Eiddo Masnachol. Ers hynny rwyf wedi cymhwyso fel Rheolwr Prosiect yn gweithio ym maes addysg uwch a chodi arian. Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i helpu Sinfonia Cymru i gael effaith drawsnewidiol mewn cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tanwasanaethu gan gerddoriaeth glasurol, ac yn enwedig i estyn at galonnau cymunedau gwledig ledled Cymru.
-
Llinos Madeley
Aelod o'r BwrddRwy’n Glerc Seneddol yn y Senedd, yn arbenigo mewn craffu a llywodraethu da. Dechreuais fy ngyrfa fel ymgynghorydd pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin. Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi cael fy secondio i weithio mewn gwladwriaethau bregus ac ôl-anghydfod fel arbenigwr ar gryfhau seneddol, gan gyfrannu at brosiectau yn Swdan, Yr Aifft ac Irác. Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerffili, gan fynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg o Goleg y Drindod, Prifysgol Rhydychen. Dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth yn yr ysgol, ond erbyn hyn mae fy chwarae wedi’i gyfyngu i’r stafell fyw, gan adael y perfformiadau i’r offerynwyr proffesiynol!
-
Russell Bright
Aelod o'r BwrddYn wreiddiol, roedd fy ngyrfa ym maes Peirianneg Cemegol, ac yna bûm yn Rheolwr Gyfarwyddwr neu’n Brif Swyddog Gweithredol mewn sawl cwmni, yn gweithio ym maes cemegolion a thechnoleg dŵr; roedd yr un olaf yn datblygu technoleg i alluogi algae i gael gwared â llygredd er mwyn glanhau ein hafonydd, ac ar yr un pryd yn cloi carbon i helpu yn y gwaith o wrthdroi newid hinsawdd. Gobeithiaf, felly, ddod â’m profiad yn y maes masnachol i fwrdd Sinfonia Cymru. Ar yr ochr gerddoriaeth, cefais fy magu yn sain cerddoriaeth glasurol, ac rwy’n parhau i’w fwynhau hyd heddiw. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’n well gen i wrando gan nad wyf yn ddigon medrus i berfformio – ond rwy’n chwarae’r gitâr, rwyf wedi cymryd rhan mewn dramâu amatur (gweler y llun!), ac rwy’n aelod o Gôr Meibion y Barri.