Ry’n ni’n dechrau’r flwyddyn gyda phreswylfa newydd yn nhref hanesyddol Llambed yng Ngheredigion. Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn Llambed am gyfres o gyngherddau anffurfiol, clos a chyfeillgar, mae’r gerddoriaeth wedi cael ei ddewis gan ein cerddorion ifanc i sicrhau profiad newydd a ffres i’n cynulleidfa.
Mae pob cyngerdd yn dechrau am 6yh, ac yn para am awr, i sicrhau bod ganddoch chi amser i deithio draw, mwynhau’r gyngerdd a bod nol adref mewn da bryd ar gyfer swper, neu mwynhau swper yn Llambed wrth gwrs. Dyma gyfle i bawb o bob oed i fwynhau cerddoriaeth fyw mewn awyrgylch gartrefol.
Mae tair cyngerdd ar werth eisioes.
Cefnogir gan Glwb Cerdd Llanbedr Pont Steffan

Dewch i brofi taith gerddorol o amgylch salons, strydoedd a chorneli cudd Ewrop yn yr 18fed Ganrif, y cyfan o’ch sedd yn yr Eglwys yn Llambed. Triawd llinynnol.
Dydd lau 5 Chwefror, 6yh, Eglwys Sant Pedr Llambed

Noson o gerddoriaeth deinamig sy’n archwilio’r newid sy’n digwydd wrth iddi nosi. Pedwarawd Llinynnol.
Dydd lau 2 Ebrill, 6yh, Eglwys Sant Pedr Llambed

Nid cwis yw hwn a sdim rhaid canu! Cawn fwynhau ffefrynnau oesol ochr yn ochr â chaneuon newydd o bosibl. Pedwarawd Llinynnol.
Cyfunaid difyr o gerddoriaeth o Sosban Fach i Bjork i Adagio for Strings gan Samuel Barber. Pumawd piano.
Dydd Iau 4 Mehefin, 6yh, lleoliad i’w gadarnhau
Lawrlwythwch ein llyfryn (pdf, 3.4mb)
Tocynnau: www.ticketsource.co.uk/sinfoniacymru
Hyd at £15 y cyngerdd neu talwch yr hyn y gallwch ei fforddio.