Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Opportunities

Clyweliadau 2025 – Ffliwt

Cyhoeddwyd Dydd Llun 4 Awst 2025

Ymgeisio am gyfleoedd llawrydd gyda Sinfonia Cymru

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 1 Medi 2025.

Ffurflen Gais

Rydym yn chwilio am gerddor dawnus dan 30 oed i ymuno â’n grŵp o gerddorion proffesiynol ifanc llawrydd o dymor 2025/26 ymlaen.

Eleni rydym yn chwilio am y canlynol:

  • Ffliwtydd

Pwy ydym ni

Mae ein rhaglen flynyddol yn cynnwys cyfuniad eclectig o brosiectau sy’n rhoi cyfle i’n cerddorion berfformio mewn ensemblau’n amrywio o ddeuawdau i gerddorfa siambr, mewn neuaddau cyngerdd, cymunedau, ac ysgolion ledled Cymru. Rydym yn hoff o berfformio ystod o gerddoriaeth ym mhob un o’r cyd-destunau hyn, gan roi cyfle i’n cerddorion groesi genres, p’un ai wrth weithio gyda’n hartistiaid gwadd cyffrous sy’n enwog yn rhyngwladol, arwain gweithdai mewn ysgolion, neu wrth raglennu prosiectau ar ein cyfer ni. Rydym yn chwilio am gerddorion eithriadol sy’n gallu cynnig ystod o sgiliau – gallech fod yn gerddor cerddorfaol addawol, yn egin addysgwr neu arweinydd gweithdai, neu’n teimlo’n gyfforddus wrth berfformio mewn gwahanol genres. Yn Sinfonia Cymru, rydym wrth ein bodd yn gweld beth all pobl ei wneud, ac yn buddsoddi yn eu cryfderau.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cynnig o ddau gyfnod o waith, o leiaf, ym mhob tymor.

Pwy ydych chi

Dylech fod wedi cwblhau, neu’n astudio, cwrs israddedig mewn cerddoriaeth a/neu wedi cwblhau, neu’n astudio ar gyfer, gradd uwch mewn perfformio cerddoriaeth, naill ai mewn conservatoire neu brifysgol. Dylech fod â hawl i weithio’n llawrydd yn y DU, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar fisa Myfyriwr.

Mae ein gwaith yn cynnwys teithio’n rheolaidd i gymunedau sy’n siarad Cymraeg, a byddai ymgeiswyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol yn y rôl hon.

Os ydych yn parhau i fod yn fyfyriwr, yn enwedig ar lefel israddedig, mae’n debygol y byddwch yn aelod eithriadol o’ch grŵp o gyfoedion.

Gan ein bod yn cyflogi cerddorion dan 30 oed, dylech fod dan 30 oed ar 1 Hydref 2026 os am ymgeisio am glyweliad.

Byddwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i geisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn os ydych wedi cymryd cyfnod i ffwrdd o’ch gwaith yn gynnar yn eich gyrfa (oherwydd, ond heb fod yn gyfyngedig i, absenoldeb fel rhiant, anabledd, neu salwch tymor-hir). Cysylltwch â ni cyn anfon cais, i drafod eich amgylchiadau.

Y Broses Clyweliadau

Rhennir y broses clyweliadau’n ddau gam; y cam cyntaf fydd cyflwyno cais ar-lein, ac yn dilyn hynny dewisir rhai ymgeiswyr i fynychu clyweliad mewn person yng Nghaerdydd ddydd Llun 29 Medi 2025.

Cam 1

Cynhyrchu recordiad fideo ohonoch chi’ch hun yn perfformio’r darnau/rhannau gosod (gweler y ddogfen berthnasol sydd ar gael ar ein gwefan).

I gyflwyno eich fideo, gofynnir i chi gwblhau y ffurflen gais hon erbyn hanner dydd ar ddydd Llun 1 Medi 2025.

Fel rhan o’r ffurflen, gofynnir i chi am ddolen i’ch cynnwys fideo. Ni ddylai fideos gael eu golygu. Dylech uwchlwytho’r deunydd naill ai i YouTube neu Dropbox, a chynnwys dolen iddo yn y ffurflen gais. Os ydych yn uwchlwytho fideo YouTube, dylech sicrhau ei fod yn cael ei uwchlwytho’n breifat.

Gofynnir hefyd i chi uwchlwytho eich CV; ni ddylai hwn fod yn fwy na dwy dudalen o hyd, a dylai roi braslun o’ch addysg a’ch profiad cerddorol proffesiynol, yn ogystal ag unrhyw brofiad perthnasol arall. Gofynnir i chi beidio â chyflwyno bywgraffiad.

Cam 2

Bydd y clyweliad byw yn cynnwys:

  • Perfformio darn pum munud o hyd, neu ran o ddarn o’ch dewis eich hun, sy’n arddangos eich personoliaeth gerddorol;
  • Perfformio rhannau a baratowyd (i’w hanfon at ymgeiswyr wedi iddynt gyflwyno eu fideo yn y rownd gyntaf);
  • Chwarae darn ar yr olwg gyntaf, i’w berfformio gydag aelod o’r panel;
  • Cyfle i sgwrsio gyda’r panel am eich diddordebau a’ch gobeithion ym maes cerddoriaeth.

Bydd chwech o bobl ar y panel, a gall gynnwys:

  • Haim Choi (Blaenwr)
  • Simmy Singh (Cysylltai Creadigol)
  • Aelodau cyfredol neu flaenorol o Sinfonia Cymru
  • Caroline Tress (Prif Weithredwr)
  • Joseph Evans (Rheolwr Cyffredinol)
  • Gareth Jones (Sylfaenydd)

Anfonir gwahoddiadau i fynychu’r ail rownd erbyn 12 Medi 2025.

Mae croeso i chi anfon unrhyw ymholiadau at y Rheolwr Cyffredinol, Joseph Evans: joseph@sinfonia.cymru

Pecyn clyweliad ffliwt

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor