Swydd ar gael! – Gynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 23 Ebrill 2025
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn chwilio am Gynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau i ymuno â’n tîm yn Sinfonia Cymru. Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Cyffredinol i sicrhau bod y gwaith o gynllunio a chyflwyno ein prosiectau siambr a cherddorfaol yn rhedeg yn llyfn; byddwch hefyd yn helpu gyda’r paratoadau logistaidd ynghlwm â holl weithgaredd y gerddorfa, yn cynnwys gwneud trefniadau llety a theithio ar gyfer y cerddorion, paratoi a dosbarthu amserlenni i gerddorion, timau technegol a chanolfannau, cynnal catalog y llyfrgell gerdd, a hurio a pharatoi’r gwahanol rannau cerddorol.
Swydd ran-amser 4 diwrnod yr wythnos yw hon, gyda chyflog oddeutu £19,200 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag Amser Llawn o £24,000 y flwyddyn).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 14 Mai 2025. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad ar 20 neu 21 Mai 2025, lle gofynnir iddynt gwblhau cyfweliad a hyd at ddwy dasg ymarferol fechan. Byddem yn dymuno i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Cynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau Pecyn Recriwtio – CYMRAEG