Swydd ar gael 2! – Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 23 Ebrill 2025
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â’n tîm yn Sinfonia Cymru. Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn chwarae rôl allweddol yng nghenhadaeth Sinfonia Cymru i ddarparu profiadau cerddoriaeth glasurol eithriadol a hygyrch i bobl ledled Cymru.
Trwy ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata arloesol, cydweithredu gyda chanolfannau partner, ac arwain y dasg o greu deunyddiau marchnata deniadol, byddwch yn codi proffil y gerddorfa ac yn denu cynulleidfaoedd amrywiol.
Swydd ran-amser, 3 diwrnod yr wythnos, yw hon ar gyflog o £19,200 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag Amser Llawn o £32,000 y flwyddyn). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 22 Mai 2025.