Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Ein Cân, Ein Stori

Dydd Iau 11 Medi 2025

Lleisiau’r gorffennol yn cwrdd â lleisiau creadigol y dyfodol mewn noson o atgofion, cerddoriaeth a ffilm.


Yn Ein Cân, Ein Stori, mae Music Theatre Wales a Sinfonia Cymru yn cyflwyno casgliad o weithiau newydd sy’n edrych yn ôl at y gorffennol ac ymlaen at y dyfodol, gan gynnwys:

  • Gweithiau byr newydd gan gyfansoddwyr ifanc o Gymru, 14–18 oed, a ddatblygwyd mewn gweithdai yn y Parc a’r Dâr ac sy’n cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru
  • Dangosiad cyntaf o Opera Dditectif Ddigidol newydd sbon, arddull Ffilm Noir, wedi’i greu gan bobl ifanc 16–25 oed ac wedi’i ffilmio y tu ôl i’r llenni ac o amgylch coridorau’r Parc a’r Dâr

Yn ogystal, bydd dau waith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis wedi’u hysbrydoli gan leisiau lleol:

  • Quiet Thoughts / Myfyrdodau Tawel – ffilm newydd gan Harriet Fleuriot sy’n rhoi llais i fenywod lleol
  • The Echoes Return Slow – gwaith sy’n cyfuno lleisiau pwerus y gorffennol o’r ffilm Women of the Rhondda (1971) gyda chyfweliadau â glowyr lleol a recordiwyd yn Sefydliad y Gweithwyr (sef y Parc a’r Dâr heddiw) gan Alan Lomax yn 1953 wrth iddo deithio’r byd yn cofnodi cerddoriaeth a thraddodiadau gwerin

Bydd gwaith Luke Lewis yn cael ei berfformio gan Sinfonia Cymru, dan arweiniad Iwan Teifion Davies, gyda ffilm a thâp sain, ac ynghyd â cherdd newydd gan Owen Sheers, a grëwyd ar y cyd â, ac yn bydd ei ddarllen gan, Kyle Stead.

Noson i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod, ac i ddathlu’r creadigrwydd sydd eto i ddod.

Am wybodaeth cliciwch yma.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor