Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Ezo’s Jazz Violin

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025 - Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025

Cerddoriaeth heb reolau: mae’r cyngerdd hwn, a gyflwynir gan fiolinydd o Sinfonia Cymru, Ezo Dem Sarici, yn dathlu ei thras Twrcaidd a’i magwraeth yn seiniau cerddoriaeth jazz, gan dynnu ar arddulliau gwahanol o Bach i gerddoriaeth werin Twrci, ac o jazz i bluegrass. Cyfuniad llawen o gerddoriaeth sy’n pontio gwahaniaethau diwylliannol a cherddorol, yn cael ei chyflwyno gan fand annisgwyl o pump o gerddorion ifanc ym meysydd cerddoriaeth glasurol a jazz. Dewch draw i gael eich diddanu gan straeon Ezo a’i rhythmau bywiog.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor