Tŷ Unnos/The One-Night House
“Ar gopa bryn, ymhell oddi wrth bawb a phopeth, mae tŷ cyfriniol yn ymddangos dros nos, gan gynnig noson orau eu bywyd i deithwyr – cyn belled â’u bod yn barod i dalu’r pris. Pan fo’r Tŷ Unnos yn cipio band teithiol, rhaid i’r cerddorion berfformio er mwyn ennill eu rhyddid. Y gynulleidfa fydd yn penderfynu pwy sy’n aros a phwy sy’n gadael. A fydd y band yn llwyddo i ddianc, neu a fydd y sioe yn mynd ’mlaen am byth?”
Joy Becker, Blaenwr a Ffidil
Raye Harvey, Ffidil
Georgie Davis, Fiola
Abby Lorimier, Soddgrwth
Tamar Eluned Williams, Awdur a Storïwr
Johnny Herford, Canwr
Graham a Hilary Roberts, Cynllunwyr y Set a’r Goleuo
Yn cynnwys aria newydd i’w ganu gan y tŷ, wedi’i greu gyda Music Theatre Wales.
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl trwy gefnogaeth hael y Colwinston Charitable Trust, Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Canolbarth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Cysylltwch â becky@sinfonia.cymru os oes gennych ddiddordeb mewn dod â’ch disgyblion i un o’n perfformiadau.