The Celtic Tree: Mae’r Ddaear yn Glasu
Cyhoeddwyd Dydd Mercher 7 Awst 2024Roeddem wrth ein bodd yn gweithio gyda’r criw hynod dalentog Garwyn Linnell (soddgrwth/ llais), David Edward (ffidil/llais), Casi Wyn (llais/barddoniaeth) a Beth Celyn (llais) ar The Celtic Tree yn gynharach yr haf hwn. Dyma ragflas o’r hud a lledrith y llwyddodd y pedwar i’w greu gyda’i gilydd ✨
Dyma Mae’r Ddaear yn Glasu (trefnwyd gan David Edward a Garwyn Linnell; perfformiwyd gan Casi Wyn, David Edward, a Garwyn Linnell ar gyfer Sinfonia Cymru).
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fwy, yn nes ymlaen eleni!
Roedd The Celtic Tree, a guradwyd gan Garwyn a David, yn cynnwys cerddoriaeth newydd roedden nhw wedi ei ysgrifennu a/neu ei drefnu eu hunain, ynghyd â barddoniaeth a ysgrifennwyd gan Casi Wyn a’i pherfformio gan Casi a Beth Celyn. Roedd y prosiect yn rhan o’n cyfres “Curate”, sy’n cefnogi ein cerddorion proffesiynol dan 30 oed i archwilio eu hoff feysydd artistig eu hunain a’u hannog i arbrofi a chymryd risg gyda syniadau ffres am yr hyn y gall creu cerddoriaeth ei olygu iddyn nhw.
Diolch yn fawr i @RatioStudios am recordio The Celtic Tree!