Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Regenerate: Seasons for Change YMARFER AGORED

Dydd Iau 13 Mehefin 2024

Dewch i ymuno â ni y tu ôl i’r llenni yn ein taith Regenerate: Seasons for Change! Dewch draw i’r ymarfer agored yn Neuadd Gregynog ddydd Iau 13 Mehefin i gael  cipolwg ecsgliwsif o’r broses o ymarfer, a gwylio wrth i’r cerddorion wneud eu paratoadau munud-olaf i’r rhaglen fywiog hon, sydd wedi’i chanoli ar yr hinsawdd.

Er nad oes angen talu i fynychu’r ymarfer agored, bydd arnoch angen tocyn. Cofiwch, dim ond cipolwg gewch chi yn yr ymarfer o’r hyn sydd i ddod yn ystod y daith! Er mwyn cael y profiad llawn, ewch draw i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 27 Gorffennaf, neu fynychu un arall o’n perfformiadau yng Nghricieth, Caerdydd neu Bontyberem.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi'r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor