Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Dyma gyflwyno Curate gan Sinfonia Cymru – cyfres pedair rhan lle daw meddyliau creadigol pedwar o’n cerddorion yn fyw wrth iddynt guradu eu cyngherddau eu hunain. Dewch i dyrchu mewn pedair rhestr chwarae eclectig a darganfod cerddoriaeth Anna Meredith, Arvo Pärt, Joseph Haydn a hyd yn oed y Red Hot Chili Peppers! Bydd ein grwpiau bychain o gerddorion yn rhoi blas i chi ar wahanol arddulliau cerddoriaeth, o Faróc i roc. Trefn anffurfiol fydd i’r nosweithiau; mynnwch glustog i orwedd arni, neu ’steddwch nôl a mwynhau’r gerddoriaeth fel petaech chi’n gwrando gartref.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor