Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Rhan o'r

That’s not very ladylike!

Dydd Sul 12 Mehefin 2022

Ymunwch â Katie Foster a cherddorion Sinfonia Cymru wrth iddynt ddathlu cyfansoddwyr a cherddorion benywaidd sydd wedi gwthio’r ffiniau ym myd cerddoriaeth. Y cyfuniad perffaith o gerddoriaeth glasurol, jazz a gwerin ar gyfer pnawn Sul ymlaciol.

“That’s not very ladylike!” Dyna’n union ddywedodd un aelod o gynulleidfa ar ôl gweld y fiolinydd Katie Foster yn chwibanu. Ysbrydolwyd Katie i ddechrau archwilio beth mae bod yn ‘ladylike’ yn ei olygu ym myd cerddoriaeth, ac mae hi’n barod i ddatgelu’r cyfan!

Wrth i ni droi ein sylw at gyfansoddwyr ac artistiaid benywaidd sydd wedi torri drwy’r rhwystrau dros y blynyddoedd, mae’r rhaglen hon yn chwalu’r stereoteipiau rhyw a genre fel ei gilydd. Cewch eich cludo ar daith sy’n cynnwys cerddoriaeth glasurol, jazz a gwerin.  Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a mwynhewch.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor