Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Triawd Llinynnol

Dydd Mercher 10 Mai 2023 - Dydd Sadwrn 13 Mai 2023

Perfformiadau am ddim yng nghalon eich cymuned! Our Mainly Village Halls Tour of Wales is Back!

“I’d never think about going to see an orchestra, but Sinfonia Cymru has changed that. Loved it!”
“Anhygoel! Diolch am ddod â bywyd newydd I’n neuadd bentref”
“Simply amazing! Thanks Sinfonia Cymru, please come back!”

Mae’n bosibl nad ydych chi wedi profi cerddoriaeth glasurol fyw o’r blaen? Efallai eich bod chi’n ddilynwr brwd! Mae Sinfonia Cymru yn gwahodd pob un ohonoch i gyngerdd byw, ymlaciol, 50 munud o hyd yn eich cymuned leol. Bydd mwy na cherddoriaeth glasurol hefyd, rhywbeth at ddant pawb!

Dewch i fwynhau perfformiadau gan rai o’r cerddorion ifanc mwyaf dawnus ym Mhrydain, pob un dan 30 oed. Cewch gwrdd â nhw ar ôl y perfformiad hefyd.

Am ddim! Mae Sinfonia Cymru’n angerddol am wneud cerddoriaeth safonol yn hygyrch i bawb yng Nghymru, felly ydyn, mae’r cyngherddau hyn am ddim – OND mae angen tocyn!

Dewch â’ch plant, eich cymdogion a’ch ffrindiau! Croeso i bawb!

Ffidil – Haim Choi
Fiola – Francesca Gilbert
Sielo – Ben Tarlton

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor