Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Rhan o'r

Songs for the Earth

Dydd Sul 3 Ebrill 2022

Dyma’n union sut y dylid treulio prynhawniau Sul – yn eistedd yn ôl, ymlacio, a gwrando ar gerddoriaeth wych.

Mae Songs for the Earth yn gyfuniad o gerddoriaeth werin a chlasurol, wedi’i hysbrydoli gan ein hangen i gysylltu â byd natur a’r awyr agored. Wedi’i churadu gan y fiolinydd Bridget O’Donnell a Misha Mullov-Abbado, y chwaraewr bas jazz gwadd, mae’r rhaglen hon yn cynnwys trefniannau o gerddoriaeth werin o’r traddodiadau Celtaidd a diwylliannau byd o Dde America i Ddwyrain Ewrop. Bydd y perfformiad hwn yn mynd â chi ar daith, gan gysylltu ysbryd cerddoriaeth werin â byd natur, y tymhorau, a’n dulliau o gysylltu â’r awyr agored drwy gerdded, garddio, sylwi a bodoli.

Yn ystod tair set o gerddoriaeth, pob un yn para am ugain munud, bydd grŵp llinynnol o bump o gerddorion ifanc proffesiynol hynod dalentog Sinfonia Cymru yn eich arwain drwy ystod o ddarnau a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin; bydd rhai’n gyfarwydd i chi, ac eraill heb fod mor adnabyddus. Llawn asbri, anffurfiol, difyr. Perfformiad ymlaciol sy’n addas ar gyfer pob oedran.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor