
Rossini, Mendelssohn, Koechlin, Gambaro
Gdewch i’n pedwarawd chwythbrennau eich cynhesu chi ar ddechrau Rhagfyr, gyda cherddoriaeth lawen a hudolus, sydd efallai’n llai cyfarwydd na’i gefnder pedwarawd llinynnol, ond bydd yn parhau i’ch rhyfeddu chi gyda’i ystod o liwiau a rhinweddau arbennig. Mae Vicenzo Gambaro a Felix Mendelssohn yn llenwi eu cerddoriaeth ag alawon ysgafn a chân sy’n amrywio o chwareus a doniol i deimladol a thelynegol, tra bod arddull fwy eclectig Charles Koechlin yn cyferbynnu alawon myfyriol, troellog hyfryd gyda ffiwg fywiog bydd yn siŵr o annog eich traed i symud. Yn olaf, mae Amrywiadau Rossini yn arddangos rhinweddau ein cerddorion wrth i bob un gael ei foment dan y chwyddwydr i ymgymryd ag ail-weithio dychmygus Rossini o’i alaw gychwynnol a allai fod wedi dod yn syth allan o un o’i operâu.
Imogen Royce – Ffliwt
Emily Wilson – Clarinét
Danae Eggen – Corn
Matt Kitteringham – Baswn
Rhaglen
- Gambaro Quartet in F
- Mendelssohn Children's Pieces
- Koechlin Trio
- Rossini Andante and Theme with Variations