Myth, Magic, Space & Joy!
Paratowch am noson o gerddoriaeth hudol, wrth i offerynwyr llinynnol Sinfonia Cymru befformio gyda Jess Gillam M.B.E, sacsoffonydd 25 oed, sy’n gyflwynydd gyda’r BBC ac yn enillydd gwobr BRIT!
Gallwch ddisgwyl profiad arallfydol, gyda cherddoriaeth wedi’i ysbrydoli gan y planedau, y sêr, y lleuad a thu hwnt! O Bowie i Max Richter, Telemann a’r rhyfeddol Ar Hyd y Nos, mae rhywbeth i bawb yn y rhaglen gyffrous hon.
Yn un o’r sacsaffonwyr gorau a mwyaf llawen ar wyneb daear, peidiwch â cholli’r cyfle i brofi hud a lledrith Jess Gillam yng Nghymru yn Nhachwedd.
Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cynnwys a cydweithrediad cyn-gyngerdd gyda Chôr Oasis One World am 6yp.