Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Bach, Farrenc, Tann

Dydd Mercher 5 Hydref 2022

Pan gyfansoddodd Bach ei sonatas i’r ffliwt, roedd y ffliwt draws – rhagflaenydd yr offeryn sy’n gyfarwydd i ni heddiw – yn mwynhau cyfnod o boblogrwydd, ar ôl cael ei ailddylunio a’i wella’n dechnegol. Gyda’r ffliwt yn awr yn disodli’r recorder, dechreuodd gael ei ddefnyddio’n amlach mewn cerddoriaeth gerddorfaol a cherddoriaeth siambr; fel cyfansoddwyr eraill, defnyddiai Bach ei sonatas i ddangos ei allu technegol a’i liwiau sain gwreiddiol. Mae’n debyg mai’r priodweddau a’r lliwiau hyn a ysbrydolodd Louise Farrenc – cyfansoddwr o Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sydd ar hyn o bryd yn mwynhau adfywiad haeddiannol – i ddefnyddio’r ffliwt yn ei thriawd i’r piano, lle byddid fel arfer yn gweld y ffidil yn ymuno â’r soddgrwth a’r piano. Mae priodweddau’r ffliwt hefyd yn caniatáu i Hilary Tann, cyfansoddwr o Gymru, ddwyn i gof ‘hen waliau cerrig garw cefn gwlad Cymru, lle mae adlais yr hen emynau yn dal i’w clywed’.

Ffliwt – Epsie Thompson
Sielo – Waynne Kwon
Piano – Joe Howson

Rhaglen

  1. Hilary Tann Llef
  2. J S Bach Sonata for Flute & Bass, BWV 1034
  3. Louise Farrenc Trio in E minor

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor