Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.

Cerddwn, with Philomusica of Aberystwyth

Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024

Yn Aberystwyth ym mis Chwefror 2024, cymerodd Sinfonia Cymru ran yn Cerddwn, sef rhaglen i ddatblygu cyfansoddwyr. Gan weithio ochr yn ochr â’r gerddorfa gymunedol Philomusica a’r arweinydd Iwan Teifion Davies, roedd yn brofiad cyffrous cael bod yn rhan o’r broses gweithdy ar gyfer pedwar darn newydd gan gyfansoddwyr o Gymru, sef Nathan James Dearden, Mared Emlyn, Jeferson Lobo, a David John Roche.

Nawr gallwch ymuno â ni a chlywed y canlyniadau terfynol! Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi cerddoriaeth newydd sbon, a gyfansoddwyd ar gyfer gwahanol grwpiau – o ensemblau siambr i gerddorfa symffoni lawn – a’i pherfformio wedi’i hamgylchynu gan drenau stêm mewn lleoliad anhygoel, sef Sied Injan Rheilffordd Dyffryn Rheidol, Aberystwyth.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor