Casi Wyn – Dŵr, Tir, Aer
Dŵr, Tir, Aer
Mae seiniau cyfoes Cymreig a’r clasurol yn cwrdd yn y cyfuniad hwn o chwedlau a hud a lledrith, o lynnoedd a mynyddoedd, o gerddoriaeth a hanesion melys. Cydweithrediad newydd rhwng saith o gerddorion Sinfonia Cymru a Casi Wyn, y gantores, cyfansoddwr a bardd amldalentog. Ymunwch â ni ar daith gaiff ei harchwilio drwy’r set newydd hon o ganeuon pop arbrofol gan un o artistiaid cerddorol mwyaf huawdl Cymru.
Llais: Casi Wyn
Ffidil: Joy Becker, Elliot Kempton
Fiola: Mabon Llyr Rhyd
Soddgrwth: Garwyn Linnell
Bas: Elen Roberts
Telyn: Alis Huws
Synthesiser: Viv le Vav
Offerynnau Taro: Sam Milton
Dyma ragflas cyflym o un o ganeuon newydd Casi, sydd ar hyn o bryd yn cael ei threfnu ar gyfer cerddorfa fel rhan o’r prosiect:
Llifo
Y gerddoriaeth a’r geiriau gan Casi Wyn
Cynhyrchwyd gan Sion Trefor
Dŵr sy’n lleddfu
Water that heals
Dŵr sy’n lloni
Water that inspires
Dŵr sy’n corddi
Water that stirs
yn cynhyrfu
and excites
rhywbeth ynof aeth yn angof,
something within me that was long ago forgotten
geiriau’r teithiau imi eu troedio.
words from my past
the lanes I once treaded.
[Chorus]
Llifo,
Flowing,
pob diferyn dry yn atgof
Every droplet melts into memory
Llifo,
Flowing,
cyn cyrraedd gwely meddal y môr.
before reaching the soft sea bed.
Dŵr sy’n gwasgu
Water that holds
Dŵr sy’n tasgu
Water that whirls
Dŵr sy’n dawnsio
Water that dances
Dŵr sy’n deffro
Water that awakens
Dŵr sy’n annog
Water that encourages
Dŵr sy’n garrog
Water that sings
Dŵr sy’n siapio
Water that shapes
yn cofleidio.
and caresses.