Rydym yn defnyddio cwcis o wasanaethau trydydd parti i'n helpu ni i wella ein gwefan.
Newyddion

Sinfonia Cymru yn croesawu Abel Selaocoe yn ôl ar gyfer Taith Gerddorol Ryfeddol o amgylch Cymru.

Datganiad i’r Wasg: 10.01.23
Cyhoeddwyd Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023

Mae Abel Selaocoe, seren y soddgrwth o Dde Affrica, yn prysur wneud enw iddo’i hun! Yn ddiweddar lansiwyd ei albwm cyntaf, ‘Hae Ke Kae’ (‘Ble mae Cartref’) ac ymddangosodd ar raglen y BBC, Later with . . . Jools Holland. Mae’n cydnabod bod Sinfonia Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ei yrfa broffesiynol, ac mae’n gyffrous am y cydweithrediad newydd hwn, ‘Hiraeth, Love & Longing’.

“Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa wych sydd wedi rhoi cyfleoedd ardderchog i’m galluogi i greu a datblygu fy ngherddoriaeth fy hun. Mae gweithio gyda nhw bob amser yn agor llwybrau newydd ac yn ysbrydoli cymaint o syniadau newydd. Mae’r gerddoriaeth rydw i wedi ei datblygu gyda’r gerddorfa wedi dod yn rhan annatod o ’mywyd cerddorol. Alla i ddim aros i fod yn ôl ‘gartre’ gyda nhw, yn datblygu ‘Hiraeth, Love & Longing’, a fydd yn archwilio themâu o gariad a hiraeth o amgylch y byd, a’i rannu gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru.”
– Abel Selaocoe

Wedi’i fagu yn Sebokeng, maestref fawr i’r de o Johannesburg, fe syrthiodd Abel mewn cariad â’r soddgrwth pan oedd ond yn 8 mlwydd oed, a hynny oherwydd bod maint yr offeryn mawr yn apelio ato! Yn sicr, mae’r ymdrech o gludo’r horwth hwn o offeryn am filltiroedd yn ôl ac ymlaen i’r orsaf i gyrraedd yr ysgol gerdd lle roedd e’n byw, wedi talu ar ei chanfed! Erbyn hyn, mae Abel yn un o’r soddgrythwyr mwyaf cyffrous ac arbrofol yn y byd.

Dechreuodd ei siwrne gyda Sinfonia Cymru pan ymddangosodd Abel yn un o Gyngherddau Amser Cinio rheolaidd y gerddorfa yng Nglan yr Afon, Casnewydd. Roedd ei allu a’i ddawn creu anhygoel yn amlwg i bawb, yn enwedig yn ystod y prosiect Birdsong gyda Kizzy Crawford a Gwilym Simcock yn 2016; bryd hynny, daeth Abel â’i syniadau ei hun gyda’i weithiau byrfyfyr anhygoel i’r soddgrwth, a’i ddull unigryw o ganu gwddf a arweiniodd at ei gynnwys fel rhan annatod o’r prosiect. Yn ddiweddarach, datblygodd ei gyngerdd ei hun gyda’r gerddorfa fel rhan o Curate, cyfres flynyddol y gerddorfa o berfformiadau lle gwahoddir cerddorion i gyflwyno ceisiadau am berfformiadau un-tro ar thema o’u dewis eu hunain. Teitl Curate Abel oedd MotherTongue. Y gerddoriaeth a ddatblygwyd ganddo yn ystod y prosiect hwn wnaeth ei ysbrydoli i ddatblygu ei yrfa fel unawdydd, a chreu cyfansoddiadau ei hun, yn ogystal â datblygu ei driawd poblogaidd – Chesaba – a fydd hefyd yn cymryd rhan yn y daith.

Meddai Tammy Daly, Rheolwr Cyffredinol Sinfonia Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gydag Abel unwaith eto. Rydym yn ei adnabod ers 2016 a bu’n rhan allweddol o rai o’n prosiectau mwyaf diddorol a chyffrous. Roedden ni’n ffodus o weithio gydag Abel ar ddechrau ei yrfa, a gwelsom ef a’i gerddoriaeth yn datblygu yn y modd mwyaf organig ac ysbrydoledig! Mae’n deimlad arbennig iawn ei fod yn awr yn arwain y prosiect hwn a’r daith gyda’n cerddorfa linynnol.”

Nid cerddorfa gyffredin yw Sinfonia Cymru! Mae’r holl offerynwyr dan 30 oed, a phob un ymhlith y gorau yn y wlad. Yn wahanol i gerddorfeydd eraill does dim arweinydd, dim ond offerynnwr arweiniol, gyda’r cerddorion yn dod at ei gilydd ychydig ddyddiau cyn perfformiad er mwyn gweithio ar y cyd i ddatblygu’r rhaglen a’r arddull, gan ddarparu profiadau ffres ac unigryw i’r gynulleidfa.

Nid dim ond cerddoriaeth glasurol a gyflwynir gan Sinfonia Cymru. Yn ystod y daith gydag Abel, gall y gynulleidfa ddisgwyl cyfuniad cerddorol unigryw, o gerddoriaeth Affricanaidd Abel ei hun, ‘Longing’ o’r Consierto i’r Soddgrwth gan Tabakova, datganiadau byrfyryr bywiog gan Chesaba, triawd Abel, darnau hudol gyda’r gerddorfa’n unig – a mwy!

“Mae gwledd yn aros am y gynulleidfa, a gallwn warantu y cewch chi berfformiad dyrchafol, gwirioneddol atyniadol a gwreiddiol na chlywsoch ei debyg erioed, hyd yn oed os ydych eisoes wedi gweld Abel yn perfformio!”
– Tammy Daly, Rheolwr Cyffredinol Sinfonia Cymru.

Dim ond tri chyfle fydd yna i fwynhau ‘Hiraeth, Love & Longing’ yng Nghymru y mis Chwefror hwn:

Dydd Iau 16 Chwefror yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd am 7:30yh
Dydd Gwener 17 Chwefror yn The Mix, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug am 7:45yh
Dydd Sadwrn 18 Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 7:00yh

Mae tocynnau bellach ar gael yn y canolfannau, a cheir dolenni a rhagor o wybodaeth ar www.sinfonia.cymru

I drefnu cyfweliadau, neu i gael lluniau, mae croeso i chi gysylltu ag Ymgynghorydd Marchnata Sinfonia Cymru, Heulwen Davies, yn Llais Cymru: heulwen@llaiscymru.wales / 07817 591930.

Cefnogwch Sinfonia Cymru

Cyfrannwch rodd nawr i roi’r dechrau gorau posibl i gerddorion ifanc yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Darllen rhagor